27.07.26
Dros y misoedd diwethaf, mae'r Bwrdd Iechyd wedi parhau i adolygu gwasanaethau yn Ysbyty Cymuned Tywyn, ochr yn ochr â rhaglen ymgysylltu eang â chymunedau lleol, staff, clinigwyr, partneriaid a rhanddeiliaid eraill.
Mae hyn wedi cynnwys digwyddiadau ymgysylltu â'r gymuned, cyfarfodydd gyda staff a chlinigwyr, trafodaethau gyda sefydliadau lleol a sesiynau "Ystafell Gytbwys" wedi'u hwyluso'n annibynnol sy'n cynnwys ystod o randdeiliaid. Mae'r sesiynau hyn wedi helpu i lunio a phrofi opsiynau posibl ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol a'r meini prawf a ddefnyddir i'w hasesu.
Mae'r adolygiad wedi ystyried yr adborth gan y gymuned lle mae cryn dipyn o ddiddordeb a theimladau cryf am ddyfodol Ward Dyfi, ochr yn ochr â'r angen i sicrhau bod gwasanaethau yn y dyfodol yn gynaliadwy ar lefel glinigol, yn cael eu cefnogi gan weithlu gwydn, yn cynnig gwerth am arian ac yn adlewyrchu'r cyfeiriad cenedlaethol i gynnig gofal yn nes at y cartref.
Caiff papur ei gyflwyno i gyfarfod cyhoeddus y Bwrdd Iechyd ar 30 Gorffennaf 2026. Bydd gofyn i'r Bwrdd gymeradwyo dau opsiwn posibl ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol i gael eu cynnwys mewn ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol:
Nid oes unrhyw opsiwn ffafriedig yn cael ei argymell ac ni cheisir unrhyw benderfyniad terfynol ar hyn o bryd.
Bydd yr ymgynghoriad arfaethedig yn caniatáu i bobl leol, staff, rhanddeiliaid a phartneriaid roi sylwadau ar yr opsiynau ac yn helpu i brofi'r dystiolaeth, y rhagdybiaethau a'r asesiadau o effaith a gyflwynir gan y Bwrdd Iechyd. Bydd unrhyw gynigion eraill sy'n rhesymol ac sydd wedi'u seilio ar dystiolaeth a gynigir yn ystod yr ymgynghoriad hefyd yn cael eu hystyried.
Yn dilyn ymgynghori, caiff yr holl ymatebion eu dadansoddi'n annibynnol a'u cyflwyno i'r Bwrdd ochr yn ochr ag unrhyw dystiolaeth ychwanegol a ddaw i law cyn i unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud.
Yn amodol ar gymeradwyaeth y Bwrdd, disgwylir i'r ymgynghoriad ffurfiol ddechrau ar ddiwedd yr haf a bydd yn para 12 wythnos. Mae deunyddiau ymgynghori, gan gynnwys fersiynau hygyrch a dwyieithog, yn cael eu datblygu ar hyn o bryd.
Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y broses hyd yma ac edrychwn ymlaen at barhau â'r sgwrs dros y misoedd sydd i ddod.
24.02.26
Yn sgil ein gwaith i barhau i ymgysylltu ynghylch dyfodol gwasanaethau cleifion mewnol yn Ysbyty Cymuned Tywyn, bydd rhagor o waith yn digwydd i fireinio'r opsiynau a gânt eu cynnwys mewn proses ymgynghori ffurfiol yn ddiweddarach eleni.
Rydym yn cydnabod bod ansicrwydd wedi parhau ers tro ac rydym yn dymuno cadarnhau mai ein blaenoriaeth yw cynnig y gofal a'r gwasanaethau gorau posibl i'r boblogaeth gyfan. Rydym wedi clywed cryfder teimladau’r gymuned am ddyfodol gwasanaethau ac rydym am sicrhau bod yr holl senarios yn cael eu harchwilio a'u datblygu'n llawn cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud.
Bydd cynrychiolwyr o grwpiau rhanddeiliaid allweddol yn cyfranogi mewn sesiwn arall dan arweiniad hwyluswyr ym mis Mawrth i sicrhau bod yr holl opsiynau sydd ar gael yn cael eu harchwilio’n llawn, y cyfrifir eu sgorau yn briodol a’u bod yn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael a'r ystod o safbwyntiau a rennir. Bydd hyn hefyd yn cynnwys opsiynau nas blaenoriaethwyd o'r rhestr hir wreiddiol yn ystod y sesiwn flaenorol.
Bydd hyn yn sicrhau y caiff y Bwrdd Iechyd yr opsiynau mwyaf seiliedig ar wybodaeth a mwyaf priodol i ystyried eu cymeradwyo ym mis Mai. Wedi hynny, bydd ymgynghoriad ffurfiol yn digwydd yn eu cylch. Disgwylir penderfyniad terfynol yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn.
Hoffem ddiolch i bawb am barhau i ymddiddori yn y gwaith pwysig hwn a chyfrannu ato er mwyn gallu llunio dyfodol gwasanaethau cleifion mewnol yn Ysbyty Cymuned Tywyn.
Bydd yr holl wybodaeth am ein gwaith hyd yma yn parhau i gael ei diweddaru yma. Yn y cyfamser, gallwch helpu i ddatblygu'r gwaith drwy roi eich adborth yma: Cwblhewch arolwg
Os oes angen copïau papur o'r Arolwg arnoch, e-bostiwch BCU.planning@wales.nhs.uk