Neidio i'r prif gynnwy

Ysgrifennydd Meddygol yn ennill gwobr gan y Bwrdd Iechyd am gefnogi cleifion sy'n siarad Cymraeg

Mae ymdrechion ysgrifennydd meddygol i gefnogi cleifion sy'n siarad Cymraeg yn Ysbyty Glan Clwyd wedi cael eu cydnabod.

Dathlwyd ymdrechion Susan Warner, ysgrifennydd meddygol ar gyfer CMATS (Gwasanaeth Triniaeth Asesu Cyhyrysgerbydol Clinigol),  i sicrhau bod cleifion sy'n siarad Cymraeg yn gallu cael mynediad at wasanaethau yn eu hiaith ddewisol  gan ei chydweithwyr.

Yn sgil ei hymdrechion, enillodd Wobr y Gymraeg, a noddwyd gan Griffiths Civil Engineering, yng Ngwobrau Cyrhaeddiad blynyddol y Bwrdd Iechyd.

Mae'r gwobrau, a noddir gan Centerprise International, yn dathlu llwyddiannau rhagorol staff y GIG ar draws Gogledd Cymru.

Cafodd Susan ei henwebu am y wobr gan ei chydweithwraig, Sophie Hensey, a ddywedodd bod ei hymdrechion yn tawelu meddyliau cleifion pan maent yn ymweld ag Ysbyty Glan Clwyd am driniaeth.

Dywedodd Sophie:  "Mae Sue'n eiriolwraig ar gyfer y Gymraeg. 

“Mae gennym lawer o gleifion oedrannus sy’n siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf, sy’n teimlo’n dawel eu meddwl pan allwn ni siarad â nhw yn eu hiaith ddewisol.

"Mae'n help i dawelu eu meddwl ac maent yn fwy hyderus pan maent yn dod atom ni.

“Mae Sue bob amser wedi bod yn gydwybodol â chadw gwobr y Gymraeg, boed yn bersonol neu ar y ffôn, yn ystod ei 20 mlynedd yn gweithio i’r GIG yng Ngogledd Cymru.”

Dywedodd Nick Cleary, Cyfarwyddwr Gweithredoedd i Griffiths:  "Rydym wrth ein boddau’n dangos cefnogaeth i wobr sy'n dathlu ymdrechion staff y GIG i gefnogi'r Gymraeg yng Ngogledd Cymru.

"Mae ymdrechion o ddydd i ddydd Sue i sicrhau bod cleifion yng Ngogledd Cymru yn gallu cael mynediad at ofal iechyd yn eu hiaith ddewisiol yn werth eu dathlu. Llongyfarchiadau Sue."

Derbyniodd ei chyd-enwebeion Paula Smith, Pennaeth Gwasanaethau ar gyfer Meddygfeydd Teulu a Reolir, a Jan Garnett, Pennaeth Nyrsio ar gyfer Llawfeddygaeth yn Ysbyty Glan Clwyd, ganmoliaeth uchel yn y seremoni wobrwyo.

Fe gydnabuwyd Paula am ei gwaith i gefnogi meddygfeydd teulu a reolir i ddarparu gofal i gleifion sy'n siarad Cymraeg yn Wrecsam, a Jan am gyflwyno'r cynllun Dewis Iaith yn Ysbyty Glan Clwyd.

Dywedodd Jeremy Nash, Prif Weithredwr Centerprise International: "Mae'n fraint cael bod yn brif noddwr yng Ngwobrau Cyrhaeddiad y Bwrdd Iechyd am y drydedd flwyddyn yn olynol.   

"Mae'r Gwobrau'n gyfle arbennig i gydnabod yr holl bobl wych sy'n gweithio o fewn y GIG yng Ngogledd Cymru.

"Mae Centreprise wedi ymrwymo i gefnogi'r gymuned yng Nghymru a'r GIG yn gyfartal.  Rydym wrth ein boddau’n cael ein cynrychioli yn y Gwobrau, a oedd yn ddathliad bendigedig o holl ymdrechion anhygoel y Bwrdd Iechyd a'i staff ymroddedig."