Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Gwynedd yw'r ysbyty cyntaf yng Nghymru i dderbyn gwobr fawreddog Coleg Brenhinol yr Anaesthetyddion

Mae adran Anesthetig Ysbyty Gwynedd ym Mangor wedi ei chydnabod am ddarparu'r ansawdd uchaf o ofal i'w chleifion. 

Mae'r ysbyty cyntaf yng Nghymru i ennill y wobr fawreddog sef yr Achrediad Gwasanaethau Clinigol Anaesthesia (ACSA)  gan Goleg Brenhinol yr Anaesthetyddion (RCoA).

Mae'r achrediad ACSA yn gynllun gan y RCoA a adolygir gan gymheiriaid sy'n hyrwyddo gwella ansawdd a'r safonau proffesiynol uchaf o wasanaeth anaesthetig. Er mwyn derbyn yr achrediad, disgwylir i adrannau anaesthetig arddangos safonau uchel mewn meysydd megis profiad cleifion, diogelwch cleifion ac arweinyddiaeth glinigol. 

Dywedodd Dr Tony Shambrook, Anaesthetydd Ymgynghorol ac Arweinydd ACSA yn Ysbyty Gwynedd:  "Rydym yn hynod falch ac mae hi'n anrhydedd i fod yr ysbyty cyntaf yng Nghymru i dderbyn achrediad ACSA.

"Mae hi wedi bod yn broses hir dros ddwy flynedd i fodloni'r 145 safon i ennill y wobr.  Mae llawer iawn o waith wedi cael ei wneud y tu ôl i'r llen, o fuddsoddi mewn offer newydd i ddiweddaru polisïau a chanllawiau i sicrhau ein bod yn eu cyflawni. 

"Ein prif ffocws yw blaenoriaethu ein cleifion a sicrhau bod diogelwch cleifion wrth wraidd popeth yr ydym yn ei wneud.  Mae'r broses ACSA wedi helpu i dynnu sylw at sut y gallwn wella fel adran i sicrhau ein bod yn darparu gofal cleifion mwy diogel a phrofiad cleifion gwell.

"Hoffwn ddweud diolch yn arbennig i fy nghydweithwyr Dr Ian Johnson, Dr Jason Walker a Dr Linda Warnock am eu cymorth wrth gydlynu'r prosiect."

Mae'r tîm Anaesthetig yn gweithio ar draws yr ysbyty ac yn darparu gwasanaethau anesthesia ar gyfer pob math o lawfeddygaeth, mewn ystafelloedd esgor, asesiadau cyn-lawdriniaeth, gwasanaethau poen ac maent yn gofalu am yr Uned Gofal Dwys sy'n gofalu am y cleifion sy'n ddifrifol wael yn yr ysbyty.

Dywedodd Dr Karen Mottart, Anaesthetydd Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Meddygol Ysbyty Gwynedd: "Mae ennill yr achrediad yn destament i waith caled yr Adran Anaesthetig yma yn Ysbyty Gwynedd.

"Dyma lwyddiant aruthrol mewn cyfnod heriol ac yn dystiolaeth y gall Ysbyty Cyffredinol Dosbarth ddarparu gofal cleifion o ansawdd uchel.  

"Rydym yn falch iawn o fod yr ysbyty cyntaf yng Nghymru i ennill y wobr a byddwn yn parhau i weithio gyda'r RCoA i gynnal y safonau hyn."

Dywedodd Dr Abrie Theron, Cadeirydd Bwrdd Cymru, Coleg Brenhinol yr Anaesthetyddion:

"Hoffwn longyfarch y tîm anaesthetig cyfan yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, yn bersonol yn am eu hachrediad ACSA. Mae derbyn y wobr hon yn gyflawniad sylweddol, ac rwyf wrth fy modd bod ein hadran gyntaf o Gymru wedi'i hachredu o dan y cynllun. Mae'n haeddiannol iawn ac yn dangos eu hymrwymiad i ddarparu'r gofal gorau posibl i'w cleifion.

"Mae diogelwch cleifion yng ngwraidd yr hyn yr ydym yn ei wneud fel Coleg Brenhinol Meddygol.  Mae'r gwelliant ansawdd a ddangoswyd yn ystod y broses achredu wedi helpu'r adran i reoli'r tasgau aruthrol a gyflwynwyd iddynt gan COVID-19 ac ailddechrau gwasanaethau arferol.  

"Mae Ysbyty Gwynedd wedi gweithio'n galed i barhau i sicrhau mai cleifion yw'r prif ffocws a darparu hyblygrwydd gwych i gyd-fynd ag angen y claf. Mae nifer o arferion arloesol ar waith yn yr ysbyty hwn.

"Yn ogystal â bodloni'r safonau, arddangosodd yr adran nifer o feysydd o arferion uwch gwych sydd wedi eu dynodi er mwyn eu rhannu drwy'r rhwydwaith ACSA."