Neidio i'r prif gynnwy

Yr heddlu a BIPBC yn parhau i annog pobl i aros adref, amddiffyn y GIG ac achub bywydau

Mae Heddlu Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn annog y cyhoedd i barhau i lynu at y cyfyngiadau symud i gynorthwyo i leihau lledaeniad COVID-19.

Gyda'r rhagolygon yn addo penwythnos heulog a chynnes, yr un ydy'r neges – arhoswch adref, achubwch fywydau ac amddiffynnwch y GIG.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Carl Foulkes:  "Rhaid i bawb gyfrannu at yr ymdrech genedlaethol i ymateb at y toriad COVID-19. Hoffem ddiolch i'r mwyafrif helaeth sydd wedi gwneud newidiadau sylweddol i'w harferion dyddiol.  Rydych chi i gyd yn chwarae eich rhan go iawn wrth gynorthwyo i achub bywydau. Mae'r hyn rydym yn ei wneud i'w weld yn gweithio ond mae'n rhaid i ni ddal ati. Fel arall, bydd yr wythnosau diwethaf wedi bod yn ofer.

"Fodd bynnag, nid amser i fod yn hunanfodlon yw hwn. Nid yw teithio o ardaloedd eraill i fwynhau ein hardaloedd lleol ni yn rhesymol. Rydym angen cefnogaeth barhaus y cyhoedd. Bydd y mynyddoedd, y traethau a chefn gwlad yma i ni eu mwynhau pan fydd hyn ar ben.

"Mae'n bwysig ein bod yn canolbwyntio ar y rheswm mae'r cyfyngiadau'n parhau - sef achub bywydau pobl yn ein cymunedau a chynorthwyo ein cydweithwyr yn y GIG sy'n gofalu am y rhai hynny yn ein hysbytai lleol.

"Wrth adael adref mae angen i ni barhau i wneud yr hyn sy'n angenrheidiol ac yn rhesymol ac mae hyn yn cynnwys lle rydym yn ymarfer corff. Dim rŵan ydy'r amser i bobl deithio i Ogledd Cymru i ymarfer corff yn ein cymunedau gwledig neu ymweld â Pharc Cenedlaethol Eryri. Y cyngor o hyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yw dylai ymarfer corff gael ei wneud yn lleol gan ddefnyddio llefydd yn agos i'ch cartref lle bo'n bosib.  Er mwyn bod yn glir iawn, nid yw teithio i'ch ail gartref yn rhesymol. Fe wnawn eich stopio. Fe wnawn eich cyfeirio am adref ac fe wnawn erlyn os bydd angen. 

"Ein ffocws o hyd yw ymgysylltu, egluro ac annog gyda phobl fel eu bod yn deall pam fod y cyfyngiadau hyn mewn lle. Mae timau hwnt ac yma a gwnaiff ein swyddogion barhau i ymgysylltu gyda phobl, sefydlu eu hamgylchiadau unigol a pharhau i egluro'r risgiau a rhybuddio am ganlyniadau methu â chydymffurfio â'r cyngor.  Fe wnawn, fodd bynnag, orfodi er mwyn amddiffyn ein cymuned. Fe wnawn ddweud wrth bobl am ddychwelyd i'w prif gartref neu fe wnawn erlyn os oes angen.   

Ychwanegodd y Prif Gwnstabl Carl Foulkes: "Mae'r GIG a gweithwyr allweddol eraill yn gwneud gwaith anhygoel yn cadw'r cyhoedd yn ddiogel, ond gofynnir i chi ystyried y gwnaiff cynyddu poblogaeth ein hardal osod baich afresymol arnynt. Rydym i gyd yn gwybod y peth iawn i'w wneud. Mae ceisio cael y gorau ar y gyfraith er budd personol yn hurt bost.   

“Da chi, peidiwch â theithio os nad yw'n hollol hanfodol. Mae hyn yn golygu naill ai siopa am fwyd neu feddyginiaeth neu deithio i'r gwaith ac yn ôl, ond dim ond os nad yw hi'n bosib gweithio o adre. Mae ein harddull blismona yn aros yr un fath a byddwn yn gweithredu mewn modd amlwg iawn ar ein ffyrdd ac mewn trefi a phentrefi yn sicrhau bod pobl y cydymffurfio â'r cyfyngiadau. Bydd ein camau'n parhau i fod yn rhesymol a theg bob amser. Rydym yn gwybod drwy weithio gyda'n cymunedau yma bod pobl yn gefnogol ohonom fel eich gwasanaeth heddlu lleol yn cynorthwyo cymunedau."

Dywedodd Simon Dean, Prif Weithredwr Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Tra ei bod yn ddeniadol mynd i grwydro dros y penwythnos er mwyn mwynhau’r tywydd braf rydym yn ei ddisgwyl, y peth iawn yw dal i ddilyn cyngor y llywodraeth ac aros adref. Dyma’r peth gorau allwn ni ei wneud i amddiffyn ein hunain, ein teuluoedd, a’n gwasanaethau GIG. Meddyliwch am y bobl hynny rydym eisoes wedi’u colli a chymerwch y camau syml hyn i’n cynorthwyo i atal lledaeniad y feirws.”

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch y cyfyngiadau newydd i Gymru ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.