Neidio i'r prif gynnwy

Yn eisiau gwirfoddolwyr ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol newydd MI FEDRAF

Allech chi roi ychydig oriau o'ch amser er gwneud gwneud gwahaniaeth i bobl sy'n cael anawsterau iechyd meddwl yn eich cymuned leol?

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn chwilio am wirfoddolwyr i gefnogi ei wasanaethau MI FEDRAF newydd, a fydd yn ei gwneud yn haws i bobl fanteisio ar gymorth iechyd meddwl yn agosach i'r cartref.

Nod ymgyrch MI FEDRAF y Bwrdd Iechyd yw rhoi cymorth yn gynt i bobl sy'n cael anawsterau iechyd meddwl ac annog sgyrsiau agored am y pwnc.

Mae'r ymgyrch eisoes wedi cynnwys cyflwyno cymorth iechyd meddwl newydd i bobl sy'n wynebu argyfwng yn y tair Adran Achosion Brys yng Ngogledd Cymru, yn ogystal â rhaglen er mwyn helpu pobl sydd ag anawsterau iechyd meddwl i ddod o hyd i waith ac i barhau i fod mewn cyflogaeth.

Mae BIPBC wedi lansio Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl MI FEDRAF hefyd, a gynigir yn rhad ac am ddim.

Rydym bellach yn chwilio am wirfoddolwyr i gefnogi Hybiau Cymunedol MI FEDRAF a gwasanaethau Gofal Cychwynnol MI FEDRAF newydd, sy'n cael eu sefydlu mewn partneriaeth ag elusennau iechyd meddwl a'r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru.

Bydd Hybiau Cymunedol MI FEDRAF yn dod ag ystod o sefydliadau ynghyd o dan un to er mwyn rhoi cyngor, cymorth a rhywun i siarad ag ef yn achos pobl sy'n cael anhawster gydag iechyd meddwl, problemau gyda chyffuriau neu alcohol, perthynas yn chwalu, anawsterau cyflogaeth, dyled, materion yn ymwneud â thai ac unigrwydd.

Bydd gwasanaethau Gofal Cychwynnol MI FEDRAF yn ei gwneud yn haws i bobl fanteisio ar gyngor a chymorth o ran y materion hyn mewn meddygfa.

Yn annhebyg i lawer o wasanaethau cymorth sy'n bodoli eisoes, gellir manteisio ar Hybiau Cymunedol MI FEDRAF a gwasanaethau Gofal Cychwynnol heb gyfeiriad neu apwyntiad.

Dywedodd Lesley Singleton, Cyfarwyddwr Partneriaethau yn BIPBC: “Rydym yn chwilio am bobl sydd dros 18 oed sy'n gallu rhoi ychydig oriau o'u hamser ac sydd am helpu i wneud gwahaniaeth i bobl yn eu cymuned leol.

“Mae gwirfoddolwyr eisoes yn ategu gwaith staff y GIG ac yn cyflawni rôl hollbwysig o ran ein helpu i sicrhau bod gan bobl sy'n cael anhawster gyda'u hiechyd meddwl rywle i droi ato. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr â sgiliau pobl da sy'n gallu rhoi cymorth emosiynol a chynnig clust i wrando.

“Mae amrywiaeth o gyfleoedd gwahanol ar gael, ynghyd ag oriau hyblyg i gydfynd â bywydau prysur pobl. Caiff hyfforddiant llawn ar ystod o faterion sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl ei roi ynghyd â chymorth parhaus."

Dechreuodd Kerry Grummert wirfoddoli yng Nghanolfan MI FEDRAF Ysbyty Maelor Wrecsam ym mis Ionawr 2019. Ers hynny, mae wedi dod o hyd i waith am dâl fel Cydlynydd Gwirfoddolwyr MI FEDRAF. Dywedodd:

“Mae gwirfoddoli'n hynod werth chweil ac mae'n anhygoel beth y gall unigolyn caredig nad yw'n barnu a phaned ei wneud i bobl pan fyddan nhw mewn angen.

“Mae datblygu sgiliau a phrofiad ein gwirfoddolwyr yn agos iawn at ein calonnau er mwyn eu galluogi i fynd ymlaen ym myd gwaith a chynnig y cymorth gorau i bobl mewn angen."

Ddydd Gwener 8 Tachwedd, cynhelir sesiynau galw heibio yn Cyngor ar Bopeth, Caergybi (10-4pm) a Chanolfan Felinfach, Pwllheli (1-3pm) i unrhyw un â diddordeb mewn gwirfoddoli.

I ddatgan eich diddordeb yn yr hyfforddiant, anfonwch e-bost at ican@wales.nhs.uk. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am hyfforddiant MI FEDRAF, ewch i: https://bcuhb.nhs.wales/i-can/