Neidio i'r prif gynnwy

Ymestyn rhaglen cymorth cyflogaeth sy'n unigryw i Ogledd Cymru yn wyneb pryder ynghylch effeithiau economaidd ac iechyd meddwl COVID-19

Mae rhaglen cymorth cyflogaeth, y cyntaf o'i bath yng Nghymru wedi'i hymestyn, yn wyneb pryder ynghylch effeithiau economaidd ac iechyd meddwl pandemig COVID-19.

Mae pobl sy'n cael anhawster i ddod o hyd i swydd neu i'w chadw oherwydd anawsterau iechyd meddwl yn cael eu hannog i fanteisio ar raglen MI FEDRAF Weithio, sy'n rhoi cymorth dwys gan arbenigwyr cyflogaeth a gweithwyr iechyd proffesiynol.

Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus dros 12 mis, lle cafodd 500 o unigolion gymorth ar draws Gogledd Cymru, mae'r rhaglen wedi cael ei hymestyn am chwe mis arall, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.

Disgwylir i sgil-effaith economaidd argyfwng COVID-19 gael effaith sylweddol ar gyflogaeth, gyda mwy nag un rhan o bump o gyflogwyr y DU yn bwriadu diswyddo staff dros y misoedd sydd i ddod. Disgwylir i hyn gael yr effaith fwyaf ar bobl ifanc a'r rhai sy'n derbyn y cyflogau isaf, a bydd yn effeithio ar ferched yn waeth na dynion.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hefyd yn rhagweld cynnydd mewn cyfeiriadau iechyd meddwl wrth i effaith cyfnod clo COVID-19 ddechrau dod i'r amlwg.

Mae Daniel Davies o Brestatyn yn un o nifer o bobl sydd wedi cymorth rhaglen MI FEDRAF Weithio.

Cafodd y cogydd hyfforddedig, sy'n 27 oed, ofid a hwyliau isel ar ôl treulio pum mis yn ddiwaith, cyn i raglen MI FEDRAF Weithio ei helpu i ddod o hyd i swydd gyda'r tîm arlwyo yn Ysbyty Glan Clwyd ym mis Mawrth 2020.

Dywedodd: “Roedd fy hyder wedi'i chwalu a'r gofid yn llethol ar ôl cael sawl ergyd ac roeddwn i'n teimlo fel rhoi'r gorau iddi. Ond bu fy arbenigwr cyflogaeth MI FEDRAF Weithio yn anhygoel a gwnaeth helpu i wella fy hunanbarch trwy fy anfon ar gwrs magu hyder.

“Roedd hi'n rhagweithiol iawn ac yn deall pa fath o waith fyddai'n addas i mi, yn hytrach na'm gwthio tuag at y swydd gyntaf a oedd ar gael.

“Mae'r rhaglen wedi fy helpu i gael golwg mwy positif ar fywyd. Ymunais â'r gampfa a dechreuais ddangos cariad a gofal tuag ataf i fy hun eto. Rydw i'n credu y gall MI FEDRAF Weithio eich helpu chi waeth beth fo'ch problemau."

Mae MI FEDRAF Weithio yn cael ei arwain gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'i gyflwyno mewn partneriaeth â'r elusen gwasanaethau cymorth personol CAIS, a Strategaeth Dinas y Rhyl, sydd â hanes hir a llwyddiannus o helpu pobl i fynd i fyd gwaith.

Dywedodd Llinos Edwards, Rheolwr Gwella Gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rydym yn gwybod bod llawer o bobl sy'n cael problemau iechyd meddwl eisiau gweithio, ond weithiau mae angen cymorth ychwanegol arnynt i wneud hynny. Yn anffodus, rydym yn gwybod y bydd llawer o bobl yn colli eu swyddi dros y misoedd sydd i ddod.

"Rydym ni eisiau annog unrhyw un sy'n cael anhawster i gysylltu fel bod ein harbenigwyr cyflogaeth MI FEDRAF Weithio'n gallu rhoi'r cymorth dwys sydd ei angen i'w helpu i ddod o hyd i gyflogaeth ac i barhau ynddi.

“Gall pobl gyfeirio eu hunain at MI FEDRAF Weithio neu gael eu cyfeirio gan eu meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall. I lawer o'r 500 o bobl a gafodd gymorth dros y 12 mis diwethaf, cysylltu â MI FEDRAF Weithio fu'r cam cyntaf o ran gwella eu hiechyd meddwl a'u rhagolygon cyflogaeth."

Mae MI FEDRAF Weithio yn seiliedig ar egwyddorion rhaglen gyflogaeth Lleoliad a Chymorth Unigol (IPS), sy'n cael ei defnyddio ym mhedwar ban byd ac a argymhellir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Iechyd a Gofal (NICE) fel y model mwyaf blaenllaw i helpu pobl sydd ag iechyd meddwl gwael i fynd i fyd gwaith. Dyma'r tro cyntaf i'r ymagwedd hon gael ei mabwysiadu ar raddfa fawr yng Nghymru. 

Mae MI FEDRAF Weithio yn un o blith ystod o fentrau sy'n ffurfio rhan o ymgyrch MI FEDRAF y bwrdd iechyd, sydd â'r nod o roi cymorth cynt a grymuso pobl i gymryd rheolaeth o'u hiechyd meddwl.

Am ragor o wybodaeth, ewch i https://bipbc.gig.cymru/mi-fedraf/mi-fedraf-weithio/