Neidio i'r prif gynnwy

Mi FEDRAF

 

Oherwydd cyfyngiadau COVID-19 efallai y bydd y ffordd yr ydym yn cynnig peth o'r gefnogaeth a ddisgrifir isod wedi newid. Os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl efallai y gall ein gwasanaeth I CAN / Mi FEDRAF ddarparu cefnogaeth emosiynol trwy alwadau ffôn rheolaidd ‘Cadw’n Iach’. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg teulu yn eich cyfeirio at y gwasanaeth hwn.

Mae Mi FEDRAF yn darparu cymorth hygyrch ar gyfer pobl sy'n cael anhawster gyda'u hiechyd meddwl a'u lles, gan ostwng yr angen dros gyfeirio at wasanaethau arbenigol y GIG.

Drwy Mi FEDRAF, gallwch hefyd gael mynediad at gymorth a chyngor ar ystod o faterion a all fod yn eich poeni, gan gynnwys dyled, perthnasau'n dod i ben, problemau cyffuriau neu alcohol, anawsterau cyflogaeth, profedigaeth, tai ac unigrwydd.

Darperir cymorth drwy ein rhwydwaith o Ganolfannau Mi FEDRAF Cymunedol a drwy ein rhaglen cymorth cyflogaeth Mi FEDRAF Weithio - a gallwch gael mynediad at y rhain heb gael eich cyfeirio gan eich Meddyg Teulu, na threfnu apwyntiad.

Mae'n iawn peidio bod yn iawn weithiau, felly os ydych yn cael anhawster am ba bynnag reswm, cliciwch ar y dolenni isod i ddod o hyd i sut y gallwn eich helpu i'ch arwain yn ôl ar y trywydd cywir.