Neidio i'r prif gynnwy

Ymdrech codi arian yn helpu i brynu offer arbenigol ar gyfer Uned y Newydd-anedig, Ysbyty Gwynedd

Mae miloedd o bunnoedd wedi helpu tuag at dalu am offer newydd yn Uned y Newydd-anedig, Ysbyty Gwynedd, gan deulu bachgen a gafodd driniaeth i achub ei fywyd, fel baban newydd-anedig.

Mae Laura O’Sullivan a'i theulu wedi codi bron i £4,000 tuag at brynu offer Tecotherm NEO sy'n cynnwys peiriant oeri a matres ar gyfer Uned y Newydd-anedig.

Cafodd mab Laura, Jac, ei eni gydag enseffalopathi hypocsig - isgemig (HIE), sef cyflwr a achosir gan ddiffyg gwaed ac ocsigen sy'n cyrraedd ymennydd y baban ac roedd yn cael nifer o ffitiau oherwydd y cyflwr yn dilyn ei enedigaeth.

Cafodd ei drosglwyddo i Uned Gofal Arbennig Babanod Ysbyty Glan Clwyd a chafodd ei roi mewn peiriant oeri am 72 awr fel rhan o driniaeth sy'n cael ei galw'n hypothermia therapiwtig, mae'n gostwng tymheredd y corff ac yn cyfyngu ar hyd a lled yr anaf i'r ymennydd sy'n cael ei achosi gan y cyflwr.

Dywedodd Laura: “Rydym ni mor falch y gallem helpu i godi arian tuag at yr offer yma sy'n achub bywydau ar gyfer Uned y Newydd-anedig, Ysbyty Gwynedd.

“Hoffwn ddiolch i bawb a gefnogodd yr ymdrech codi arian hon er mwyn helpu i sicrhau bod yr holl fabanod sy'n cael eu geni gyda HIE yn gallu dechrau ar eu triniaeth cyn gynted â phosibl.

“Mawr fydd ein dyled am byth i'r holl staff yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd fu'n gofalu am Jac."

Dywedodd Jo Douglas, Rheolwr y Gwasanaeth Plant a'r Newydd-anedig ar gyfer Gorllewin Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Bu'r rhodd gan gronfa Mat Jac yn hollbwysig o ran dechrau ar y broses o chwilio am gyllid ar gyfer y peiriant hwn ac rydym yn hynod ddiolchgar i'r holl deulu, ffrindiau a'r sawl sy'n cefnogi'r tîm codi arian am eu holl ymdrechion a'u cymorth.

“Dangoswyd bod y peiriant hwn yn gwella canlyniadau i fabanod sydd wedi cael eu hamddifadu o ocsigen ar adeg eu genedigaeth a allai fod yn andwyol i ymennydd y baban.

“Mae meddu ar y system hon yn Ysbyty Gwynedd yn ein galluogi i ddechrau rhoi'r gofal hollbwysig hwn yn fuan ar ôl genedigaeth wrth i ni aros i'r tîm adfer drosglwyddo'r baban i Uned y Newydd-anedig yn Ysbyty Glan Clwyd.

“Bydd y darn yma o offer yn sicrhau bod staff meddygol a nyrsio yn Ysbyty Gwynedd yn gallu cael sicrwydd eu bod yn gallu gwneud eu gorau glas i'r babanod hyn."