Neidio i'r prif gynnwy

Ymateb cymunedol enfawr i ddiogelu staff sydd ar y rheng flaen yn ystod achos COVID-19

Rhoddwyd oddeutu 700 feisor i helpu i ddiogelu staff sydd ar y rheng flaen yn ystod pandemig COVID-19 i'r Bwrdd Iechyd diolch i ymdrech enfawr gan y gymuned leol.

Cychwynnwyd prosiect tua wythnos yn ôl rhwng North Wales Tech, Prifysgol Bangor, Grŵp Llandrillo Menai, ysgolion yng Ngwynedd a Môn a chwmnïau preifat i greu'r Cyfarpar Diogelu Personol (PPE).

O fewn pum niwrnod, anfonwyd y feisorau i Ysbyty Gwynedd i'w dosbarthu i ysbytai Gogledd Cymru. 

Dywedodd Dr Simon Burnell, Anesthetydd Ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd, a oedd yn bresennol i dderbyn y feisorau: "Rydym yn hynod ddiolchgar am y rhodd i helpu i ddiogelu ein staff yn ystod y cyfnod hwn. 

“Mae hon wedi bod yn ymdrech anhygoel ac rydym yn falch o weld sut mae ein cymuned glos yn dod at ei gilydd i wneud popeth o fewn eu gallu i’n helpu.”

Anfonwyd y feisorau gan aelodau o Barc Gwyddoniaeth Menai sydd wedi bod yn ymwneud â'u cynhyrchu. 

Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr Parc Gwyddoniaeth Menai:  "Mae gweld pŵer y bobl yn ymateb i'r mater hwn dros y pum niwrnod diwethaf wedi fy rhyfeddu.

"Mae'n dangos ein bod yn gallu gweithio gyda'n gilydd yn effeithiol, rhwng aelodau o'r gymuned, academyddion, aelodau o'r trydydd sector a'r sector cyhoeddus."

Mae Mark Polin, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi adleisio cais y Prif Weinidog i fusnesau brys gefnogi cynhyrchiant PPE ar gyfer staff sydd ar y rheng flaen yn brwydro achosion COVID-19.

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi cael ymateb enfawr i'r apêl barhaus am offer ac mae'n gweithio gydag unigolion i gydlynu'r gwaith a sicrhau bod cynnyrch a gynhyrchir yn lleol yn bodloni'r safonau diogelu angenrheidiol. 

Dywedodd Mr Polin: "Hoffem ddiolch i'r holl sefydliadau ac unigolion sydd wedi bod mewn cysylltiad i ddangos eu cefnogaeth a'u caredigrwydd gydag achosion COVID-19.

Hoffem annog unrhyw gwmni ar draws Gogledd Cymru i gamu ymlaen os ydynt am allu bod o gymorth mewn unrhyw ffordd. 

"P'un a yw hynny drwy ddarparu feisorau, masgiau, ffedogau neu fenig, mae'n siŵr y bydd y cynnydd a ragwelir yn nifer yr achosion COVID-19 yn gweld y galw am yr eitemau hyn yn codi ymhellach ledled y wlad yn y dyddiau, wythnosau a misoedd nesaf."

Gall cwmnïau a hoffai helpu gyda'r cais am PPE gysylltu drwy e-bostio’r Adran Gaffael ar

 nwssp.nwales.procurement@wales.nhs.uk