Mae pobl sy’n cael trafferth â phroblemau'n ymwneud ag iechyd meddwl wedi disgrifio sut mae cefnogaeth a ddarperir trwy ganolfan galw heibio Gwynedd wedi eu helpu i ‘ddysgu byw eto’.
Mae Canolfan Felin Fach ym Mhwllheli yn un o 12 Canolfan Gymunedol Fedra'i sydd wedi'u lleoli ar draws Gogledd Cymru, lle gall pobl gael gafael ar gymorth heb fod angen apwyntiad neu gyfeiriad gan feddyg teulu.
Mae'r canolfannau'n darparu cefnogaeth ar ystod o faterion, gan gynnwys dyled, perthnasau'n dod i ben, problemau cyffuriau neu alcohol, anawsterau cyflogaeth, profedigaeth, tai ac unigrwydd.
Er bod rhai o'r canolfannau wedi'u sefydlu'n ddiweddar, mae eraill fel Canolfan Felin Fach wedi bod yn darparu cefnogaeth ers nifer o flynyddoedd.
Daeth Gail Lloyd i Felin Fach yn teimlo ar goll ac mewn ‘pwll anobaith’ chwe blynedd yn ôl. Dywed fod y gefnogaeth y mae wedi’i derbyn wedi gwneud iddi deimlo ‘fel rhan o’r teulu’.
“Pan ddes i yma chwe blynedd yn ôl roeddwn ar goll iawn ac nid oedd gen i’r hyder i siarad ag unrhyw un,” esboniodd.
“Rydw i wedi bod yn alcoholig hirdymor ac wedi dioddef o drais domestig ers blynyddoedd lawer. Doeddwn i ddim yn teimlo y byddai unrhyw un yn gwrando arna i na fod fy stori mor gyffredin, a bod yn onest.
"Ond ers i mi fod yn dod yma rydw i wedi dysgu byw eto. Mae'n rhoi persbectif hollol newydd i chi ar fywyd ac rydych chi'n cael ymdeimlad o berthyn. Ni fyddwch byth yn cael eich barnu oherwydd bod gan bob unigolyn broblemau gwahanol. Mae'r staff yn hyfryd ac rydych chi'n cael croeso mor gyfeillgar fel eich bod chi'n teimlo fel rhan o'r teulu.
"Rwy'n annog pobl sy'n ei chael hi'n anodd rhoi cynnig arni oherwydd mae'n werth chweil. Roeddwn yn sownd adref mewn pwll o anobaith, ond yn raddol rwyf wedi dod yn fwy hyderus ac yn teimlo fy mod i wedi dysgu byw eto."
Dywed Tania Roberts, 45, o Bwllheli fod y ganolfan wedi dod yn ‘gartref oddi cartref’ a’i helpu i ymdopi â phrofedigaeth, iselder ysbryd a phoen cronig yn dilyn llawdriniaeth ar ei chefn.
“Rydw i wedi bod yn dod yma am y saith mlynedd diwethaf ac mae'n gartref oddi cartref lle gallwch chi dderbyn cefnogaeth gydag unrhyw beth o gwbl,” meddai.
“Mae'n gwneud gwahaniaeth enfawr i wybod bod yna rywle a rhywun y gallwch chi droi atynt ac wedyn nid ydych yn teimlo mor unig.
“Nid ydynt yn gwneud i chi deimlo'n niwsans os oes angen i chi eu ffonio a'ch bod chi'n crio ac yn afreolus. Byddant yn rhoi'r tegell ymlaen ac yn helpu i'ch codi chi'n ôl ar eich traed eto. Mae wedi fy achub ac wedi fy ngwneud i'n gryfach. Dydw i ddim yn gwybod ble byddwn i heb y ganolfan.”
Ariennir 12 Canolfan Gymunedol Fedra'i gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac fe'u cynhelir mewn partneriaeth â darparwyr trydydd sector sydd â hanes profedig o helpu pobl sy'n profi anawsterau cysylltiedig ag iechyd meddwl.
Mae'r Seiciatrydd Ymgynghorol, Dr Alberto Salmoiraghi, Cyfarwyddwr Meddygol BIPBC ar gyfer gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, yn annog mwy o bobl i fanteisio ar y cymorth cynnar hwn sy'n hawdd cael mynediad ato a ddarperir mewn Canolfannau Fedra'i y gaeaf hwn.
Dywedodd: "Gall pawb gael trafferth o bryd i’w gilydd ac mae’n bwysig gwybod nad ydych chi ar eich pen eich hun. Beth bynnag sydd yn eich poeni - mae cefnogaeth ar gael bob amser i'ch helpu i fynd yn ôl ar y trywydd iawn.
"Ni fydd pawb yn bodloni'r meini prawf ar gyfer y gefnogaeth fwy arbenigol a ddarperir gan wasanaethau iechyd meddwl y GIG. Dyna pam mae'r gefnogaeth hawdd ei chyrchu a ddarperir mewn Canolfannau Fedra'i mor bwysig.
"Rwy'n annog pobl i ymweld â'u Canolfan Cymunedol Fedra'i lleol a rhoi cynnig arni. Mae'r tegell ymlaen bob amser a byddwch chi'n cael croeso cynnes gan y tîm cyfeillgar a phrofiadol o staff a gwirfoddolwyr."
I gael manylion am eich Canolfan Gymunedol Fedra'i agosaf, ewch i wefan BIPBC: https://bipbc.gig.cymru/cyngor-iechyd/hwb-iechyd-meddwl/fedra-i/