Neidio i'r prif gynnwy

Y Bwrdd Iechyd yn gwahodd trigolion yng Ngogledd Cymru i gymryd rhan mewn Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn rhad ac am ddim

Mae hyfforddiant am ddim yn cael ei gynnig ar draws Gogledd Cymru er mwyn gwneud mwy i gynorthwyo'r rheiny sydd ag anawsterau iechyd meddwl.

I nodi Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd (Dydd Mawrth 10 Medi), mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn galw ar bobl ar draws y rhanbarth i fanteisio ar ei Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl, sef MI FEDRAF.

Y Bwrdd Iechyd yw'r cyntaf yng Nghymru i sicrhau bod hyfforddiant o'r fath ar gael yn eang, a hynny'n rhad ac am ddim.

Mae hyfforddiant MI FEDRAF, a ddatblygwyd gan weithwyr iechyd meddwl proffesiynol yn y GIG yn rhoi trosolwg o broblemau iechyd meddwl cyffredin yn ogystal ag arweiniad arfer gorau ar sut i wrando, rhoi cyngor defnyddiol, a gofalu am eich iechyd meddwl a'ch lles eich hun.

Mae'n rhan o ymgyrch MI FEDRAF y Bwrdd Iechyd, sydd â'r nod o roi cymorth yn gynt i bobl sy'n cael anawsterau iechyd meddwl, grymuso pobl i gymryd yr awenau o ran rheoli eu hiechyd meddwl, ac annog sgyrsiau agored am y pwnc.

Mae'r ymgyrch eisoes wedi cynnwys cyflwyno cymorth iechyd meddwl newydd i bobl sy'n wynebu argyfwng yn y tair Adran Achosion Brys yng Ngogledd Cymru, yn ogystal â chymorth ychwanegol i helpu pobl sydd ag anawsterau iechyd meddwl i ddod o hyd i waith ac i barhau i fod mewn cyflogaeth.

Cafodd hyfforddiant MI FEDRAF ei ddatblygu'n wreiddiol ar gyfer barbwrs, fel rhan o ymdrechion i fynd i'r afael â thrasiedi hunanladdiad gan wrywod, ac i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl dynion.

Yn sgil y galw enfawr, mae'r hyfforddiant wedi'i ymestyn bellach i gynnwys cyflogwyr, grwpiau cymunedol ac unigolion ar draws y rhanbarth. Mae'r Bwrdd Iechyd yn bwriadu cyflwyno model 'hyfforddi'r hyfforddwr' er mwyn sicrhau bod modd iddo ateb y galw cynyddol hwn.

Ymhlith y rheiny sydd eisoes wedi derbyn Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl MI FEDRAF, y mae'r barbwr o Gaernarfon, Jason Parry. Dywedodd:

“Mae hyfforddiant MI FEDRAF wedi bod o gymorth enfawr i mi am resymau personol a phroffesiynol. Rhoddodd gipolwg ar fyd iechyd meddwl i mi, a chaniataodd i mi gael mwy o empathi gyda dioddefwyr.

“Cyn y cwrs, nid oeddwn i'n ymwybodol o'r mathau gwahanol o gymorth sydd ar gael i bobl sy'n dioddef problemau iechyd meddwl. Ond erbyn hyn, rydw i'n teimlo'n hyderus o ran gallu cyfeirio rhai o'm cleientiaid sydd fwyaf agored i niwed at y cymorth sydd ei angen arnynt."

Dywedodd Lesley Singleton, Cyfarwyddwr Partneriaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu BIPBC:

“Rydym yn gwybod bod llawer o bobl am allu cefnogi ffrindiau, cydweithwyr ac aelodau'r teulu a allai fod ag anawsterau iechyd meddwl, ond maen nhw'n poeni am ddweud y peth anghywir neu am wneud y sefyllfa'n waeth.

“Mae ein hyfforddiant yn cynnig cyngor arfer gorau ar sut i wrando, rhoi cyngor buddiol, a gofalu am eich iechyd meddwl eich hun. Rydym yn gobeithio y bydd yn grymuso pobl gyffredin mewn cymunedau ledled Gogledd Cymru i gael sgyrsiau agored, gonest a gwybodus am iechyd meddwl, sy'n gallu helpu i fynd i'r afael â'r stigma sy'n dal i atal rhai pobl rhag ceisio'r cymorth sydd ei angen arnynt.

“Rydym am annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn derbyn yr hyfforddiant neu i'w roi i gysylltu â ni.”

I ddatgan eich diddordeb yn yr hyfforddiant, anfonwch e-bost at ican@wales.nhs.uk.