Neidio i'r prif gynnwy

Vince, goroeswr canser y fron, yn codi ymwybyddiaeth o ganser y fron ymysg dynion

Mae taid i ddau o blant sy'n dod o Landudno, a gafodd driniaeth ar gyfer canser y fron, yn annog dynion eraill i wirio eu hunain am symptomau. 

Sylwodd Vince Kitching, sy'n 69 oed, ar lwmp maint pys wedi'i rewi yn ei fron ochr chwith yn gyntaf ym mis Mai 2019 ac fe drefnodd apwyntiad gyda'i Feddyg Teulu ar unwaith.

Cafodd Vince, a oedd gynt yn byw ym Mangor am nifer o flynyddoedd, ei gyfeirio at Ysbyty Cyffredinol Llandudno am asesiad o’i fron lle cafodd uwchsain, wedi'i ddilyn gan biopsi a oedd yn dangos bod ganddo diwmor. 

Dywedodd: "Cafodd fy ngwraig Helen a minnau ergyd fawr pan glywon ni'r newyddion bod gennyf ganser y fron. 

"Roedd fy nhriniaeth yn golygu cael mastectomi llawn ar fy mron ochr chwith, a oedd yn cynnwys tynnu fy nheth. 

"Cefais fy llawdriniaeth yn Ysbyty Glan Clwyd ym mis Mehefin fel achos llawfeddygaeth dydd a oedd yn fy nghaniatáu i fynd adref i wella ar yr un diwrnod.

"Roeddwn yn lwcus iawn gan nad oeddwn mewn unrhyw boen yn dilyn fy llawdriniaeth a llwyddais i wella’n sydyn iawn."

Wythnos ar ôl ei lawdriniaeth cafodd y cyn-syrfëwr adeiladau y newyddion gan ei lawfeddyg, Chiara Sirianni, ei fod yn lwcus iawn nad oedd ei ganser wedi lledaenu i unrhyw ran arall o'i gorff ac nad oedd angen unrhyw driniaeth bellach arno. 

"Nid wyf yn rhy siŵr ers faint oedd y lwmp wedi bod yno ond nid oeddwn yn gwirio o gwmpas fy mron chwaith. A dweud y gwir, fel llawer o ddynion, nid oeddwn yn gwybod bod yn rhaid i mi wirio'r darn hwn o fy nghorff hyd yn oed. 

"Nid oeddwn wedi clywed am ddynion yn cael canser ar y fron o’r blaen, nid oes neb yn fy nheulu agosaf wedi cael canser y fron ac felly nid oedd hynny erioed wedi croesi fy meddwl," ychwanegodd Vince. 

Rydym yn aml yn meddwl am ganser y fron fel rhywbeth sy’n effeithio ar ferched yn unig, ond mewn achosion prin gall dynion ei gael hefyd.  Mae'n datblygu yn yr ychydig o feinwe'r fron sydd gan ddynion y tu ôl i'w tethau. 

Mae fel arfer yn effeithio ar ddynion dros 60 oed, ond yn achlysurol iawn gall effeithio ar ddynion iau hefyd. 

I nodi Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron yn ystod mis Hydref, mae Vince yn gobeithio codi ymwybyddiaeth ymysg dynion ac mae'n eu hannog i fynd at eu Meddyg Teulu os oes ganddynt unrhyw bryderon.

Dywedodd: "Ers i mi gael diagnosis rwyf wedi siarad â llawer o fy ffrindiau gwrywaidd am fy mhrofiadau ac mae wedi gwneud iddynt sylweddoli y gall hyn ddigwydd i ddynion yn ogystal â merched. 

"Roeddwn i'n lwcus iawn oherwydd mi wnes i weithredu'n gyflym a pheidio ag anwybyddu'r hyn y bu i mi ddod o hyd iddo.   Ni ddylai pobl fod yn ofn mynd at eu Meddyg Teulu - nid oes y fath beth ag apwyntiad wedi’i wastraffu, gall o bosibl achub eich bywyd.

"Os mai canser ydyw yna'r cynharaf y mae'n cael ei ganfod yr hawsa'n byd ydyw i'w drin.  Cefais ofal ardderchog gan y tîm gofal y fron yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Llandudno ac Ysbyty Glan Clwyd. 

"Roedd y cyfathrebu gyda fy llawfeddyg, Mrs Sirianni, yn ardderchog o'r cychwyn cyntaf ac roedd y gefnogaeth a gefais gan y nyrsys gofal y fron, Rhian Jones a Mared Williams yn anhygoel.  Hyd yn oed os fyswn yn rhan o'r teulu brenhinol ni fyswn wedi gallu cael fy nhrin yn ddim gwell."

Dywedodd Ms Sirianni, a ymunodd â thîm y Fron yn Ysbyty Gwynedd yn 2014:  "Mae canser y fron ymysg dynion yn eithaf prin, gan ei fod yn cynrychioli tua 1% o'r holl achosion.

"Mae'n bwysig i ddynion aros yn ymwybodol ac i roi gwybod i'w Meddyg Teulu os ydynt yn dod ar draws unrhyw lympiau newydd ar y fron neu'r frest, yn enwedig os yw'n gysylltiedig ag anffurfiadau a newidiadau yn y croen.  Mae'r rhan fwyaf o fas bronnau dynion yn dyner, ond mae angen sicrhau fod pob un yn cael asesiad arbenigol. 

"Mae 95% o achosion canser y fron ymysg dynion yn cael diagnosis ohono ar gam cynnar ac nid ydynt yn gysylltiedig â chael canlyniad gwaeth na merched.  Mae gan gyfran sylweddol o ddynion sydd â chanser y fron hanes teuluol o'r clefyd a dylent gael cynnig ymgynghoriad genetig.

"Hoffwn ddiolch i Vince am siarad am ei brofiadau i godi ymwybyddiaeth ac am ei eiriau caredig am y tîm a oedd yn rhan o'i driniaeth."