Neidio i'r prif gynnwy

Torri pob record brechu rhag y ffliw gan amddiffyn mwy o bobl yng Ngogledd Cymru nag erioed

25.03.22

Mae mwy o bobl yng Ngogledd Cymru wedi cael eu brechlyn ffliw nag erioed o’r blaen y gaeaf hwn.

Mae cyfanswm o fwy na 316,000 o frechlynnau ffliw wedi’u rhoi gan bractisau meddygon teulu, fferyllwyr cymunedol, nyrsys ardal ac ysgol ers mis Medi – â mwy o bobl dros 65 nag erioed yn cael eu pigiad.

Manteisiodd tua 132,000 neu bron i 80% o bobl hŷn ar y cynnig, gan helpu i wneud Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn un o’r ardaloedd sy’n perfformio orau yng Nghymru.

Daeth y perfformiad ynghanol yr ymdrech frechu enfawr rhag COVID-19, sydd wedi gweld mwy na 425,000 o bobl ledled ardal y bwrdd iechyd yn derbyn brechiad atgyfnerthu ers mis Medi.

Mae brechlynnau ffliw yn dal ar gael, ac mae’r bwrdd iechyd yn parhau i annog unrhyw un mewn grŵp blaenoriaeth.

Diolchodd Teresa Owen, y cyfarwyddwr gweithredol iechyd cyhoeddus, i aelodau’r cyhoedd am fanteisio ar y cyfle i gael eu brechiad, gan ganmol pawb a fu’n ymwneud â chyflwyniad y rhaglen.

“Ar ran y bwrdd iechyd, hoffwn ddiolch i’n cydweithwyr o meddygfeydd, fferyllfeydd cymunedol, timau nyrsio ysgol ac ardal a’n holl bartneriaid am eu hymdrechion eithriadol wrth gyflwyno’r ymgyrch brechu rhag y ffliw’r tymor hwn,” dywedodd.

“O ganlyniad uniongyrchol i’w hymrwymiad a’u harbenigedd, mae mwy o bobl nag erioed wedi cael eu brechu rhag y ffliw yng Ngogledd Cymru’r tymor hwn – gan gynnwys y nifer uchaf erioed o bobl dros 65 oed.

“Er nad ydym wedi gweld nifer uchel o achosion o’r ffliw’r gaeaf hwn, mae potensial o hyd ar gyfer cynnydd yn nifer yr achosion o’r ffliw yn ystod y gwanwyn a dechrau’r haf. Byddem yn annog unrhyw un o’r grwpiau blaenoriaeth nad ydynt wedi derbyn eu brechlyn rhad ac am ddim rhag y ffliw i ddod ymlaen i’w derbyn.”

Bydd llawer o feddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol yn parhau i gynnig brechiadau rhag y ffliw tan diwedd mis Mawrth.

Mae pawb dros 50 oed, gweithwyr iechyd a gofal, pobl â chyflwr iechyd hirdymor, menywod beichiog a phlant rhwng 2 a 18 oed i gyd yn gymwys i gael brechiad rhag y ffliw am ddim. Gwiriwch a ydych yn gymwys a darganfyddwch fwy am dderbyn eich brechiad rhag y ffliw.  

Dysgu mwy am frechu COVID-19.