Neidio i'r prif gynnwy

Tîm ymateb gwirfoddol yn gyrru staff GIG i'r gwaith drwy'r eira mawr a'r rhew

15/03/2023

Yn ystod yr eira, bu grŵp gwirfoddol 4x4 yn helpu dros 100 aelod o staff hanfodol GIG i gyrraedd eu gwaith yn ddiogel.

Cafodd gwirfoddolwyr o’r elusen 4x4 Response Wales eu dosbarthu i gynorthwyo staff critigol a staff gofal GIG o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) gyda chyrraedd eu gwaith a dychwelyd adref yn ogystal â galluogi ymweliadau cartref gyda chleifion.

Mae gan y bwrdd iechyd gytundeb gyda grŵp 4x4 Response Wales fel rhan o’i Gynllun Tywydd Garw, fel bod y tîm sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig yn gallu camu i mewn a chefnogi staff 24/7 bob dydd drwy gydol y flwyddyn, i sicrhau nad oes unrhyw sifftiau hanfodol yn cael eu methu oherwydd tywydd garw.

Dywedodd Michelle Greene, Cyfarwyddwr Cymuned Iechyd Integredig y Dwyrain: “Hoffwn ddiolch i’r tîm ymateb a phob un o’i wirfoddolwyr a helpodd ein staff i gyrraedd eu gwaith yn ddiogel, yn ogystal â’r rhai y gwnaethant eu helpu i gyrraedd adref hefyd.

“Sicrhaodd y gwirfoddolwyr fod ein nyrsys ardal yn gallu sicrhau bod cleifion yn cael eu meddyginiaeth hanfodol a bod anghenion eraill yn cael eu bodloni er mwyn eu cadw’n ddiogel gartref yn ystod yr eira. Mae’r gefnogaeth amhrisiadwy hon yn sicrhau nad oes tarfiad ar wasanaethau hanfodol ar draws Gogledd Cymru a bod ein staff yn parhau i aros yn ddiogel.

“Diolch enfawr i’n holl staff hefyd, a’r rhai a ddaeth i mewn ar eu diwrnodau i ffwrdd i weld cleifion, sy’n dangos ymroddiad ein staff tuag at gleifion yn ogystal â’i gilydd.”

Yn ystod yr eira’r wythnos diwethaf, roedd gwirfoddolwyr yr elusen yn gweithio nosweithiau hwyr a boreau cynnar gan dderbyn dros 250 o geisiadau am gymorth dros ddau ddiwrnod ac yn dosbarthu 14 o ymatebwyr gwahanol, gan helpu dros 100 o weithwyr iechyd a gofal i gyrraedd eu gwaith a dychwelyd adref.

Dywedodd Vernon Turnbull, Swyddog Cynllunio a Rheolwr Digwyddiad Gogledd Cymru, o 4x4 Response Wales: “Rydym yn falch o allu sicrhau ein bod yn gallu ymateb i geisiadau am gymorth gan ein partneriaid gwasanaethau brys fel bod cymunedau yn cael y cymorth sydd eu hangen arnynt pryd bynnag y bo angen, boed hynny oherwydd tywydd garw neu achosion brys eraill.

“Mae ein gyrwyr wedi’u gwirio gan Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac maent wedi’u hyfforddi yn arbennig i yrru eu cerbydau eu hunain mewn tywydd garw megis eira, rhew a llifogydd, ac maent hefyd wedi derbyn hyfforddiant pellach gyda gyrru oddi ar y ffordd, llywio a chyfathrebu, cymorth cyntaf, asesiadau risg ac ymwybyddiaeth o ddŵr a llifogydd. Maent yn cario ystod lawn o offer argyfwng a goroesi i’w gwneud yn wydn os bydd amodau’n gwaethygu er mwyn sicrhau diogelwch ein gwirfoddolwyr a phawb yr ydym yn eu cefnogi.”

Mae 4x4 Response Wales wedi’i ariannu’n bennaf gan ei aelodau, gyda rhai grantiau yn cael eu derbyn ar gyfer hyfforddiant ac offer.

Mae’r elusen wedi’i gosod ar y rhestr fer ar gyfer y fenter Eich Cymuned, Eich Dewis, ac mae angen pleidleisiau’r cyhoedd i ennill grant ar gyfer trelar cymorth cymunedol newydd, a fydd yn cynnal system gyfathrebu i roi cymaint o gysylltiadau cyfathrebu sydd eu hangen arnynt ar sail 24/7, hyd yn oed mewn ardaloedd anghysbell.

 

Bydd y trelar hefyd yn cynnwys cyfleusterau sy’n cynnig bwyd a diodydd poeth ar gyfer cymunedau sydd angen cymorth yn ystod digwyddiad brys, cyfleuster aildrydanu eu dyfeisiau symudol er mwyn cadw mewn cyswllt ag aelodau'r teulu. Bydd y Trelar Cymorth Cymunedol yn offeryn amhrisiadwy er mwyn helpu cymunedau lleol mewn achosion brys a thoriadau pŵer. I bleidleisio ym menter Eich Cymuned, Eich Dewis eleni, cliciwch yma.