Mae therapyddion cymuned sy'n gweithio yng Nghonwy wedi newid eu patrwm gwaith i ddarparu mwy ar gyfer adsefydliad cleifion sy'n gwella o COVID-19.
Mae grŵp o Ffisiotherapyddion, Therapyddion Galwedigaethol a Hyfforddwyr Technegol Therapi fel rhan o'r Tîm Adnoddau Cymuned yn awr yn gweithio saith niwrnod yr wythnos i gefnogi pobl yn eu cartrefi ei hunain.
Mae'r tîm ymysg nifer o gydweithwyr therapïau ar draws Cymru sydd wedi newid y ffordd maent yn gweithio neu wedi cael eu hadleoli i rolau gwahanol i helpu i ymdrin â COVID-19.
Fe all y Tîm Therapi Cymuned Conwy, a oedd yn gweithio ddydd Llun i ddydd Gwener yn flaenorol yn awr helpu mwy o bobl i ddychwelyd gartref o'r ysbyty yn gynt a chefnogi pobl i aros yn eu cartrefi ei hunain yn hytrach na chael eu derbyn i'r ysbyty, ble bo'n briodol.
Mae eu gwaith yn cynnwys darparu offer neu gyngor sydd ei angen i gefnogi pobl i gynnal annibyniaeth a diogelwch yn y cartref, cyngor ar godymau, darparu rhaglenni ymarfer ac adsefydlu yng nghartrefi pobl yn ogystal â chysylltu'n agos â gwasanaethau eraill megis timau Nyrsio Ardal, gwasanaethau cymdeithasol a Meddygfeydd.
Ochr yn ochr â'u gwaith i helpu pobl i wella a chryfhau ar ôl bod yn sâl gyda COVID, mae'r tîm hefyd yn edrych ar ffyrdd newydd ac arloesol o weithio.
Dywedodd Gwawr Job-Davies, Dirprwy Bennaeth Dros Dro Ffisiotherapi ar gyfer Ardal y Canol: "Rydym hefyd yn gweithio ar lwybrau adsefydlu ac rydym eisoes wedi datblygu ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau o ystyried y cyfyngiadau presennol sydd ar waith.
"Yn ogystal ag ymweld â phobl yn eu cartrefi ei hunain, rydym yn cynnig ymgynghoriadau dros y ffôn a fideo, rhywbeth nad ydym wedi'i wneud o'r blaen. Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu pobl i aros yn iach ac yn annibynnol gartref."
Mae'r tîm yn un o nifer o dimau ar draws Gogledd Cymru sy'n newid y ffordd maent yn gweithio i fodloni galw COVID-19.
Yn Ysbyty Maelor Wrecsam, mae patrwm sifft 24 awr ar waith i ffisiotherapyddion ddarparu cefnogaeth i gleifion orwedd wyneb i lawr. Mae gorwedd wyneb i lawr yn driniaeth i helpu i gefnogi pobl sydd ag anawsterau anadlu, mae rhoi claf i orwedd ar eu bol yn helpu i wella faint o ocsigen sy'n mynd i mewn i lif y gwaed.
Mae timau Ffisiotherapi a Therapi Galwedigaethol yn Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Gwynedd hefyd yn gweithio'r patrwm newydd saith niwrnod, 12 awr i gefnogi cydweithwyr.
Mae'r tri phrif ysbyty yn awr wedi cynyddu nifer y therapyddion drwy gydol yr wythnos yn yr Adrannau Achosion Brys, ac mae timau Ffisiotherapi a Therapi Galwedigaethol cymuned yng Ngwynedd ac Ynys Môn eisoes wedi bod yn gweithio i'r model gwasanaeth saith niwrnod.