Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr annisgwyl i gydnabod staff llinellau cymorth

Mae tîm sy’n darparu cymorth 24/7 i bobl sy’n agored i niwed ledled Cymru wedi ennill gwobr annisgwyl.

Tîm Adran Llinellau Cymorth Gogledd Ddwyrain Cymru yw enillwyr diweddaraf gwobr Seren Betsi, sy’n cydnabod gwaith caled ac ymroddiad staff y GIG ar draws Gogledd Cymru.

Mae’r tîm ymroddedig yn cynnal CALL, llinell gymorth iechyd meddwl ar gyfer Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru; DAN 24/7, llinell gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru; a’r llinell gymorth Dementia Cymru.

Mae’r tri gwasanaeth ar gael 24/7 i bobl ar draws Cymru, gan ddarparu cymorth emosiynol a chyfeiriadau at gyfeiriadur cynhwysfawr o wasanaethau lleol a chenedlaethol.

Mae’r tîm llinellau cymorth, a reolir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi eu cydnabod am y rôl allweddol y maent wedi’u chwarae wrth gefnogi pobl sy’n agored i niwed ar draws Cymru yn ystod pandemig COVID-19 a thu hwnt.

Mae hyn yn cynnwys cyrraedd 80 y cant o gynnydd mewn galw am gymorth ar frig y pandemig, gyda staff a gwirfoddolwyr yn gweithio oriau ychwanegol i sicrhau bod galwadau ffôn yn parhau i gael eu hateb.

Dywedodd Luke Ogden, Rheolwr yr Adran Llinellau Cymorth: “Mae’r tîm wedi mynd tu hwnt a thu draw i ddarparu gwasanaeth cyson i bobl Cymru. Gan wynebu’r pandemig a’r rhwystrau atal heintiau a ddaeth yn ei sgil, llwyddodd tîm yr adran i ddarparu amryw o wasanaethau o fewn yr un swyddfa.”

Ymysg y rhai a gafodd eu cydnabod oedd Karl Bailey, gwirfoddolwr sydd wedi rhoi 27 mlynedd o wasanaeth anhunanol i’r adran llinellau cymorth. Yn ystod y cyfnod hwn, amcangyfrifir ei fod wedi rhoi mwy na 4,000 o oriau ac wedi ateb mwy na 7,200 o alwadau gan bobl mewn angen.

Dywedodd: “Mae gwirfoddoli yma yn rhoi pwrpas i mi mewn bywyd. Os gallaf ddefnyddio fy amser rhydd i helpu eraill sydd efallai’n dioddef o broblemau iechyd meddwl, yna teimlaf fel fy mod yn cael rhywbeth allan ohono.

“Mae’n rhoi llawer o foddhad i mi wybod y gallaf wneud gwahaniaeth pan mae rhywun mewn gofid.”

Cyflwynodd Will Williams, Pennaeth Cyflenwi Gwasanaethau a Gweithrediadau Clinigol Gwasanaethau Arbenigol Rhanbarthol yn BIPBC,  wobr annisgwyl i’r tîm.  Dywedodd:

“Mae’r tîm yn haeddu canmoliaeth enfawr am y ffordd y maent wedi codi i gyrraedd y cynnydd anferth mewn galw, er gwaethaf yr heriau sylweddol a achosir gan pandemig COVID-19. Wrth wneud hynny, maent wedi sicrhau bod pobl ledled Cymru yn gallu cael cymorth emosiynol yn gyflym ac yn hawdd yn ystod eu hawr o angen. Rydym yn hynod falch o ymdrechion y tîm, ac maent i gyd yn enillwyr teilwng o’r wobr Seren Betsi hwn.”

Mae pob un o’r tair llinell gymorth ar gael 24/7, gyda chymorth yn cael ei ddarparu dros y ffôn, drwy neges destun a drwy wefan bwrpasol.

CALL, Llinell Gymorth lechyd Meddwl ar gyfer Cymru Ffôn Di-dâl: 0800 132737, Tecstiwch ‘Help’ i 81066, neu ewch i callhelpline.org.uk

DAN 24/7, Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru.  Ffôn Di-dâl 0808 808 2234, Tecstiwch ‘DAN’ i 81066, neu ewch i dan247.org.uk/

Llinell Gymorth Dementia Cymru. Ffôn Di-dâl 0808 808 2235, Tecstiwch ‘Help’ i 81066, neu ewch i callhelpline.org.uk/Dementia-Helpline.php