Neidio i'r prif gynnwy

Therapyddion Galwedigaethol yn helpu cleifion bregus i ddychwelyd gartref gyda bwyd a nwyddau

Mae Therapyddion Galwedigaethol yn Ysbyty Glan Clwyd yn paratoi pecynnau gofal i sicrhau bod gan gleifion sy’n dychwelyd gartref o’r ysbyty nwyddau.

Mae’r tîm wedi dod ynghyd i brynu eitemau bob dydd ar gyfer y tŷ fel y gall cleifion bregus a rhai â phroblemau symudedd gael amser i setlo gartref a chael cefnogaeth i nwyddau gael eu dosbarthu i’r cartref iddynt.

Mae Therapyddion Galwedigaethol yn Ysbyty Glan Clwyd yn gweithio gyda chleifion i ail adeiladu eu hyder a sicrhau eu bod yn gallu gofalu amdanynt eu hunain gartref yn dilyn arhosiad mewn ysbyty.

Ond, gan fod ymbellhau cymdeithasol yn rhoi heriau ychwanegol i allu pobl i fyw’n annibynnol, mae’r tîm yn mynd gam ymhellach i sicrhau eu bod yn dychwelyd gartref mor ddiogel â phosibl.

Fe ddaeth y syniad gan Alana Macpherson, Therapydd Galwedigaethol a welodd efallai nad oes gan bobl sy’n gadael yr ysbyty y rhwydwaith cefnogi roeddent yn dibynnu arno’n flaenorol gartref.

Fe feddyliodd am y syniad o becynnau gofal sy’n cynnwys bwyd nad yw’n darfod, nwyddau ymolchi ac ar gyfer y cartref, yn ogystal â gweithgareddau megis llyfrau pos a chroesair.

Mae’r tîm yn awr yn derbyn rhoddion gan y cyhoedd i gefnogi’r pecynnau gofal, un ai drwy roddion i Awyr Las neu drwy adael nwyddau yn y pwynt casglu yn Ysbyty Brenhinol Alexandra.

Dywedodd Lauren Porter, Therapydd Galwedigaethol: “Pan rydym yn anfon pobl o’r ysbyty, rydym bob amser yn sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn barod i ddychwelyd gartref.

“Ar yr adeg hon, efallai bod cleifion yn ei chael yn anoddach i gael mynediad at fwyd pan maent yn dychwelyd gartref, yn enwedig os ydynt hwy neu deulu neu ofalwyr yn gorfod hunan ynysu.

“Rydym wedi gweld y gall fod yn broblem iddynt gael nwyddau hanfodol pan maent yn mynd gartref ar adeg ble rydym yn ceisio lleihau cyswllt.

“Fe wnaethom godi ychydig o arian a rhoi rhai eitemau ein hunain er mwyn dechrau’r prosiect, ac rydym wedi cael cefnogaeth wych gan Awyr Las, elusen y GIG ar gyfer Gogledd Cymru, sydd wedi rhoi system ar waith i dderbyn rhoddion gan y cyhoedd hefyd.