Neidio i'r prif gynnwy

Tad o Wrecsam a drechodd COVID-19 yn canmol staff yn Ysbyty Maelor Wrecsam am achub ei fywyd

Mae tad i dri o blant, a’r person cyntaf i adael Ysbyty Maelor Wrecsam ar ôl bod angen triniaeth gofal dwys ar gyfer COVID-19 wedi canmol staff am achub ei fywyd.

Dechreuodd David Hamlington, 51, deimlo’n sâl ddydd Gwener, 3 Ebrill gyda blinder eithafol a phoenau yn ei gyhyrau. 

Derbyniwyd y Gweithredwr Pacio sy’n gweithio yn Ffatri Kellogg’s yn Wrecsam i’r ysbyty dri diwrnod yn ddiweddarach ac o fewn dau ddiwrnod fe’i rhoddwyd ar beiriant anadlu o fewn yr Uned Gofal Critigol.

Mae ei wraig ers 21 mlynedd, Alison, wedi disgrifio’r diwrnodau torcalonnus o beidio gallu bod wrth erchwyn gwely ei gŵr. 

Meddai: “Pan ddywedodd y Meddygon bod David wedi derbyn prawf positif ar gyfer COVID-19, roeddwn i’n torri fy nghalon.

“Roedd yn frawychus iawn clywed bod angen iddo fod ar beiriant anadlu, a’r naw diwrnod o beidio gallu ei weld na siarad ag o oedd y rhan waethaf i mi a’r genethod.

“Er ei fod yn amser anodd iawn i ni fel teulu, roedd y staff ar yr uned yn wych am roi gwybod i ni beth oedd yn mynd ymlaen, ac roedd y diwrnod y cefais yr alwad i ddweud ei fod wedi deffro yn rhyddhad enfawr!

“Fe aeth y staff, er ein bod yn gwybod pa mor ofnadwy o brysur oedden nhw, gam ymhellach a threfnu ‘facetime’ i ni fel y gallen ni weld David a gwneud yn siŵr ei fod yn iawn – roedd cael y cyswllt gweledol hwnnw yn bwysig i ni.”

Gadawodd David, sy’n aelod o gôr y Fron sydd wedi ennill sawl gwobr, yr ysbyty i gymeradwyaeth gan staff yr uned gofal dwys dros dair wythnos yn ddiweddarach ar ddydd Mawrth, 21 Ebrill. 

Mae o nawr yn gwella adref gydag Alison a’u tair merch, Kellen, Nia a Sian. 

Dywedodd: “Alla i ddim diolch digon i’r staff am yr hyn maen nhw wedi ei wneud i mi, fe wnaethon nhw achub fy mywyd a chadw ein teulu gyda’i gilydd. 

“Nid oedd unrhyw beth yn ormod o drafferth iddyn nhw, roedden nhw bob amser â gwên ar eu hwynebau ac er nad oedd fy nheulu fy hun gyda mi, fe wnaethon nhw i mi deimlo fy mod yn rhan o’u teulu nhw.

“Mae fy nheulu a minnau wedi cael cefnogaeth aruthrol gan gymaint o bobl, gan gynnwys fy nghyflogwr a hefyd fy chwaer yng nghyfraith, sydd hefyd yn gweithio yn y Maelor. 

“Rydw i’n teimlo’n lwcus iawn i fod yma, ac mae’r diolch i gyd i’r staff gofal iechyd eithriadol yn yr ysbyty, ni fydda i byth yn gallu talu’n ôl iddyn nhw.”

Dywedodd Metron Uned Gofal Critigol Ysbyty Maelor Wrecsam, Helen Williams, fod y tîm yn hynod falch o glywed bod David yn gwella’n dda adref. 

Meddai: “Roedd yn foment arbennig iawn i ni weld David yn gadael ein Huned Gofal Critigol ac roeddem mor falch o glywed ei fod yn gwneud yn dda. 

“Mae geiriau caredig David a’i deulu yn golygu’r byd i ni a dymunwn y gorau i David yn ei adferiad parhaus gartref.”