29/10/21
Mae cyfraddau achosion COVID-19 ar lefelau pryderus o uchel ac mae rhai modelau yn awgrymu tymor ffliw trwm iawn, felly mae'n hanfodol, os ydych chi'n gymwys, i chi gael eich brechlynnau ffliw ac atgyfnerthu cyn gynted ag y cânt eu cynnig.
Gallwch ganfod atebion i gwestiynau cyffredin ynglŷn â sut i gael y ddau frechlyn isod.
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi argymell y grwpiau blaenoriaeth canlynol ar gyfer brechu rhag y ffliw y gaeaf hwn:
Cysylltir â phobl mewn grwpiau blaenoriaethol i'w gwahodd i gael eu brechlyn ffliw yn eu meddygfa.
Mae meddygfeydd yn gweithio'n galed i gynnig apwyntiadau brechu rhag y ffliw, a byddant yn parhau i gynnig apwyntiadau i bobl sy'n perthyn i grwpiau blaenoriaethol dros yr wythnosau nesaf.
Mae meddygfeydd yn parhau i fod yn brysur iawn - arhoswch i gael eich gwahodd i gael eich brechiad ffliw.
Derbyniwch eich cynnig o apwyntiad cyn gynted â phosibl i wneud y mwyaf o'ch amddiffyniad rhag y ffliw y gaeaf hwn.
Bydd aelodau o staff y GIG yn cael cynnig eu brechiad ffliw yn y gwaith. Dylai gofalwyr sy'n gweithio mewn cartref gofal neu i asiantaeth gofal cartref fynd i fferyllfa gymunedol leol i gael eu brechu, neu ddilyn trefniadau a wneir gan eu cyflogwr .
Bydd plant yn cael cynnig eu brechlyn ffliw trwy chwistrell trwyn yn yr ysgol, ac mae clinigau brechu mewn ysgolion cynradd ledled Gogledd Cymru eisoes ar y gweill. Bydd plant dwy a thair oed yn cael eu galw am apwyntiadau gan eu meddygfa.
Mae brechiadau ffliw hefyd ar gael yn y mwyafrif o fferyllfeydd cymunedol yng Ngogledd Cymru.
Gall pobl mewn grwpiau blaenoriaethol hefyd drefnu i gael eu brechiad ffliw yn eu fferyllfa gymunedol leol yn rhad ac am ddim.
Mae rhestr lawn o fferyllfeydd sy'n cynnig apwyntiadau brechlyn ffliw ar gael ar wefan BIPBC.
Mae'r Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) yn argymell y dylid cynnig brechlyn atgyfnerthu COVID-19 i'r unigolion a ganlyn, os oes o leiaf chwe mis wedi mynd heibio ers eu hail ddos:
Arhoswch am wahoddiad am apwyntiad trwy'r post a pheidiwch â chysylltu â'ch meddygfa neu ein Canolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19, oherwydd ni fyddant yn gallu trefnu un i chi ynghynt.
Ar ôl i chi gael apwyntiad, gwnewch bob ymdrech i gadw ato. Peidiwch â dod i'n safleoedd Brechu COVID-19 heb apwyntiad oherwydd gofynnir ichi adael.
Ar hyn o bryd, mae ein timau brechu COVID-19 yn brechu gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen a phobl dros 80 oed. Rydym ni wedi cychwyn anfon llythyrau apwyntiadau at bobl sydd dros 70 oed.
Derbyniwch gynnig i gael pigiadau ffliw ac atgyfnerthu cyn gynted ag y cânt eu cynnig i chi. Nid oes angen gadael bwlch rhwng pob pigiad. Mae'r JCVI wedi cynghori ei bod yn ddiogel i frechlynnau ffliw ac atgyfnerthu gael eu rhoi ar yr un pryd neu ar unrhyw adeg ar ôl ei gilydd - nid oes angen unrhyw fwlch
Nid yw'n arfer safonol rhoi brechlynnau atgyfnerthu ffliw a COVID-19 ar yr un pryd, ond gall fod nifer fechan o achosion lle bydd amseru a logisteg yn caniatáu i ni wneud hyn. Yn y rhan fwyaf o achosion, rhoddir eich brechlyn atgyfnerthu mewn Canolfan Frechu COVID-19, tra bydd eich brechlyn ffliw yn y rhan fwyaf o achosion yn cael ei roi yn eich meddygfa. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael apwyntiadau ar wahân i gael y ddau bigiad.
Mae'r JCVI yn argymell y dylid cynnig brechlyn atgyfnerthu COVID-19 i'r bobl sy'n fwyaf agored i haint difrifol, os oes o leiaf chwe mis wedi mynd heibio ers eu hail ddos.
Sylwer nad yw hyn yn golygu y dylai pobl ddisgwyl cael apwyntiad i gael pigiad atgyfnerthu cyn gynted ag y bydd chwe mis wedi mynd heibio ers eu hail ddos.
Yn unol â chanllawiau JCVI, rydym yn gwahodd y rhai sy'n gymwys i gael pigiad atgyfnerthu ar sail yr un drefn blaenoriaeth â'r cam cyntaf, os oes o leiaf chwe mis wedi mynd heibio ers eu hail ddos.
Mae ein timau'n gweithio fel lladd nadroedd i roi pigiadau atgyfnerthu i bobl cyn gynted â phosibl.
Gofynnwn i'r rhai sy'n gymwys fod yn amyneddgar a chofiwch nad oes angen cysylltu â ni i drefnu apwyntiad. Cysylltir yn uniongyrchol â chi pan ddaw eich tro.
Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch chi ein helpu ni i'ch helpu chi'r gaeaf hwn. Mae hyn yn cynnwys cymryd eich pigiadau ffliw ac atgyfnerthu cyn gynted ag y cânt eu cynnig i chi, os ydych chi'n gymwys.
Bydd golchi ein dwylo, lleihau nifer y bobl rydyn ni'n cwrdd â hwy, a gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do hefyd yn helpu i'n hamddiffyn ein hunain a'n hanwyliaid rhag firysau'r gaeaf megis y ffliw a chyflyrau anadlol eraill.
Os oes angen i chi gael gofal neu gymorth, dewiswch y gwasanaeth mwyaf priodol ar gyfer eich anghenion trwy droi at wefannau GIG 111 Cymru neu Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y brechlyn ffliw ar wefan Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yma.
I gael rhagor o wybodaeth am frechlyn atgyfnerthu COVID-19, cliciwch yma.