Neidio i'r prif gynnwy

Staff Ysbyty Maelor Wrecsam yn helpu claf i ddathlu ei phen-blwydd yn 100 oed

Gwnaeth staff ar Ward Orthopedig Ysbyty Maelor Wrecsam bob ymdrech i sicrhau bod un o’u cleifion yn cael dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed mewn steil.

Cyflwynwyd cacen pen-blwydd a nifer fawr o gardiau ac anrhegion a anfonwyd i’r ysbyty gan deulu a ffrindiau i Ellen Robinson.

Hefyd, addurnwyd Ward Mason gan y staff, lle mae Ellen yn gwella yn dilyn llawdriniaeth, i helpu i wneud ei diwrnod yn fwy arbennig. 

Dywedodd Kate Beetlestone, Gweithiwr Cefnogi Dementia, a gynorthwyodd i drefnu’r dathliadau “nid yw bod yn yr ysbyty dros ben-blwydd yn braf i unrhyw un, ond gan fod hwn yn ben-blwydd arbennig iawn, roeddem yn teimlo y dylem ddathlu go iawn.

“Anfonwyd holl gardiau Ellen i’r ysbyty, felly roedd modd i ni eu harddangos yn ei hystafell yn ogystal â baneri pen-blwydd. 

“Hefyd, darparwyd bwffe hyfryd gan ein tîm arlwyo, gan gynnwys cacen a bowliau ffrwythau a wnaed yn arbennig a brechdanau roedd ein holl gleifion yn gallu eu mwynhau.

“Oherwydd y cyfyngiadau ymweld presennol, nid oedd modd i deulu Ellen ddod i mewn i’w gweld, felly fe wnaethom drefnu galwadau Skype gyda’i hanwyliaid, fel eu bod yn gallu dymuno pen-blwydd hapus iddi.

“Bu’n ddiwrnod arbennig, mae Ellen yn ddynes mor hyfryd, felly roeddem yn falch iawn ein bod wedi  gallu gwneud hyn a’i helpu i ddathlu ei 100fed pen-blwydd.”

Dywedodd Wendy Sutton, merch Ellen, pa mor wych oedd bod y ward wedi gwneud cymaint i wneud pen-blwydd Ellen yn un i’w gofio, gan ychwanegu bod y staff wedi mynd ‘y filltir ychwanegol’ i helpu ei mam i ddathlu carreg filltir mor arbennig.

Meddai: “Rwy’n ddiolchgar iawn i’r staff am yr holl ofal maen nhw wedi’i ddarparu i fy mam, mae’n wych eu bod hefyd wedi mynd y filltir ychwanegol i wneud hwn yn ddiwrnod mor arbennig iddi.

“Roedd hi mor braf eu bod wedi gallu trefnu galwadau Skype i ni gyd allu dymuno pen-blwydd hapus iddi hefyd.”