Neidio i'r prif gynnwy

Staff y Bwrdd Iechyd yn mynd i'r afael â her feicio er cof am un o'u cydweithwyr annwyl

Mae staff o'r Ganolfan Aelodau a Chyfarpar Artiffisial yn Wrecsam wedi ymuno â theulu cyn gydweithiwr er mwyn cwblhau taith feicio er elusen, gan godi miloedd o bunnoedd er cof amdani.

Bu farw Lindsey Jones, a oedd yn gweithio yn y Ganolfan am 30 mlynedd, yn 2016 a byddai wedi troi'n 50 oed eleni ac er cof amdani, mae cyfres o heriau - The Big Fifty - wedi'u pennu er mwyn codi arian ac ymwybyddiaeth at Hosbis Tŷ'r Eos.

Yn cwblhau'r her oedd merch Lindsey, Bethan, a ymunodd â staff o'r Ganolfan i gwblhau rhan olaf taith sy'n cyfateb i feicio o Ben Tir Cernyw i Benrhyn Cothnais (968 milltir) ar feic yn y gampfa dros gyfnod o chwe wythnos, a wnaed rhwng oriau gwaith.

Hyd yma, maent wedi codi bron i £3,000, ond maent am godi'r cyfanswm hwnnw i £5,000.

Dywedodd Bethan: “Cafodd 'The Big Fifty' ei greu er mwyn dathlu penblwydd fy mam, Lindsey, yn 50 oed ac mwyn codi arian at Hosbis Tŷ'r Eos.

"Penderfynodd y tîm yn ALAC gymryd rhan mewn her fel rhan o 'The Big Fifty'. Gwnaethant feicio o  Ben Tir Cernyw i Benrhyn Cothnais ac wrth reswm, roeddwn i am gymryd rhan ac roeddwn wrth fy modd yn bod yn rhan o'r cyfan.

“Rydw i'n hynod falch a diolchgar o wybod bod y tîm yn ALAC yn colli ac yn caru fy mam fel yr ydw i. Gwnaethant ofyn yn garedig iawn i mi orffen yr her a'u helpu i gyrraedd Penrhyn Cothnais, ac mi wnes i hynny ac roedd yn wych."

Os hoffech noddi neu i gael rhagor o wybodaeth am The Big Fifty, ewch i JustGiving or Facebook.