Neidio i'r prif gynnwy

Staff sydd â dawn tyfu pethau yn creu gardd llesiant mewn canolfan blant

19/07/2021

Mae dau aelod meddylgar o staff o Ganolfan Blant Rhuddlan wedi trawsnewid man oedd wedi gordyfu i fod yn ‘hafan’ ar gyfer yr holl staff.

Crëwyd yr ardd llesiant gan y garddwyr Suzanne Harris, a Don Wasdell, y ddau yn Weithwyr Cefnogi Plant Cymunedol.

Mae’r ardd yn arddangos potiau, cadeiriau, byrddau a phlanhigion newydd a brynwyd neu a roddwyd gan y gymuned leol. Mae basgedi hongian yn yr ardd hefyd gyda mefus a phlanhigion yr haf, yn ogystal â blychau gyda ffa dringo, tomatos a nionod.

Mae garddio wedi bod o fudd therapiwtig i Suzanne sydd wedi bod â’i heriau llesiant ei hun.

Mae Suzanne yn egluro: “Yn 2012 gadawyd fy mab, a oedd yn gwasanaethu gyda Bataliwn Cyntaf y Gwarchodlu Cymreig, gydag anafiadau a newidiodd ei fywyd pan ffrwydrodd ei gerbyd gan fom IED yn Afghanistan. Pan gafodd ei ryddhau, euthum innau’n wael iawn, ac roeddwn i ffwrdd o’r gwaith am sawl mis. Roeddwn o dan ofal Iechyd Galwedigaethol yn Ysbyty Glan Clwyd a chynghorodd fy meddyg ‘Bresgripsiwn Gwyrdd’, dywedodd bod angen i mi fod allan mewn mannau gwyrdd, i fynd am dro a mwynhau natur, i helpu gyda phryder a straen.

“Ar ôl dychwelyd i’r gwaith yng Nghanolfan Blant Rhuddlan, roedd ychydig o dir gwastraff y tu ôl i’r swyddfeydd. Roeddwn yn arfer mynd at y ffenest bob dydd ac edrych allan yn meddwl y byddai hwn yn lle da i staff allu eistedd allan, cael eu hegwylion a mwynhau byd natur, gan fod llawer o goed o gwmpas ond nes i ddim mwy na hynny.

“Fel y gwyddom, tarodd Covid-19 ni i gyd ym mis Mawrth 2020 ac fe gollon ni y rhan fwyaf o’n staff a gafodd eu hadleoli i fannau eraill o’r Bwrdd Iechyd, fodd bynnag, fe enillon ni cwpl o aelodau o staff hefyd oherwydd asesiadau risg Covid, gan gynnwys Don, yr ydw i wedi bod yn ffrindiau ag o ers 35 mlynedd ac mae o’n arddwr brwd fel finnau.

“Un diwrnod gofynnais iddo a fyddai’n fodlon fy helpu i glirio’r isdyfiant a’r chwyn fel y gallwn wneud gardd, ac fe gytunodd.”

Dechreuodd Suzanne a Don ym mis Gorffennaf 2020 yn ystod eu hamser sbâr a’u dyddiau i ffwrdd gan ddod i mewn i glirio’r ardal, glanhau a thrwsio dodrefn tu allan, chwilio am roddion a phlannu blodau.

Derbyniodd y ganolfan roddion amrywiol gan gynnwys gŵr Suzanne yn gwneud planwyr o hen bren rheilffordd, sydd nawr yn dal perlysiau a blodau. Uwch gylchodd Don gadeiriau pren oedd wedi’u rhoddi, ac fe gawson ni fwrdd adar a blwch planhigion ar gyfer blodau gwyllt i ddenu gwenyn a phryfed i’r ardd.

Anogodd y ddau staff eraill a’u teuluoedd hefyd i fod yn rhan o brosiect yr ardd.

Ychwanegodd Suzanne: “Rydw i wedi rhoi ein henwau ymlaen mewn cystadleuaeth blodau haul sy’n cael ei redeg gan y cwmni ‘little Cornish seed’, sy’n gystadleuaeth

genedlaethol ar gyfer tyfu blodau haul. Prynais yr hadau blodau haul gan y cwmni, yna rhoddais hadau, gyda phot wedi’i labelu a bag o bridd i’r staff oedd â phant, i dyfu’r blodau haul. Ar ôl iddynt dyfu, fe wnaethom eu trawsblannu i’n gardd, ac rydym yn gofalu amdanyn nhw fel y gwnânt dyfu ac edrych dros y wal.

“Mae lles yn rhan fawr o’n gwasanaeth, a phan fydd staff yn ymweld â Rhuddlan, nawr mae ganddyn nhw le diogel i eistedd a chael egwyl, ac rydym hyd yn oed wedi cael cyfarfodydd tîm yn yr ardd ar ddiwrnodau da.

“Rwy’n gwneud yr holl blanhigion o hadau neu o doriadau, ac mae Don yn gwneud y gwaith llaw sydd ei angen. Maen nhw’n ein galw ni yn “Bill a Ben” yn y swyddfa. Mae’n edrych yn hyfryd a nawr mae adar yn ymweld, ac mae’r blodau, perlysiau a llysiau yn gyfeillgar i wenyn, felly rydym yn edrych ar ôl natur hefyd."

Meddai Nerys Pritchard, Rheolwr Tîm Nyrsio Plant Cymunedol: “Mae’r ardd yn edrych yn hyfryd, maen nhw wedi trawsnewid y lle i fod yn hafan. Mae Suzanne yn frwdfrydig iawn am lesiant, ac mae hi wedi creu gardd â chariad i bawb ei ddefnyddio, lle i staff eistedd a bod yn hapus. Mae’r ddau wedi derbyn ac uwch gylchu rhoddion, toriadau o flodau ac mae’r ardd wedi dod yn lle sy’n dod â’n staff ynghyd."