Neidio i'r prif gynnwy

Sefydlu Canolfan Asesu Lleol yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Bangor

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn gweithio gyda Meddygon Teulu Arfon i sefydlu Canolfan Asesu Lleol i helpu  i reoli triniaeth cleifion sydd â symptomau o COVID-19 yn y gymuned.

Bydd y Ganolfan Asesu Lleol ym Mangor yn agor yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Bangor yr wythnos hon a bydd yn asesu cleifion sydd â symptomau o COVID-19, un ai i reoli eu symptomau gartref neu eu cyfeirio am driniaeth pellach.

Ni fydd y ganolfan yn profi cleifion am COVID-19, ac mae ar gyfer cleifion sy’n cael cynnig apwyntiad yn unig. Nid ydynt yn cynnig gwasanaeth galw heibio.

Dywedodd Dr Nia Hughes, Arweinydd Clwstwr Meddygon Teulu Arfon: “Bydd clwstwr Meddygon Teulu Arfon yn defnyddio’r cyfleusterau yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Bangor yn Nantporth, Bangor, fel ei ganolfan asesu COVID-19.

“Bydd gennym dîm o feddygon teulu a staff gweinyddol yma yn ystod oriau craidd Meddyg Teulu, i weld cleifion sydd â symptomau COVID posibl sydd wedi cael eu brysbennu gan eu Meddyg Teulu ei hunain fel rhai sydd angen asesiad clinigol pellach o’u symptomau. Mae hyn er mwyn ceisio cadw cleifion COVID a chleifion nad oes ganddynt COVID ar wahân i’w gilydd, er mwyn diogelu’r cleifion a’r staff.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Glwb Pêl-droed Dinas Bangor, CIC Nantporth a Chyngor Dinas Bangor am eu cefnogaeth.”

Mae Clwb Pêl-droed Dinas Bangor yn rhoi’r adeilad am ddim i ni yn ystod y pandemig, ac maent eisoes wedi rhoi rhodd o £5,000 tuag at Uned Gofal Dwys Ysbyty Gwynedd i gefnogi staff.

Dywedodd Domenico Serafino, Llywydd y Clwb: “Rwy’n hapus iawn i gynnig cyfleusterau’r clwb am ddim, fel gall y Bwrdd Iechyd ddefnyddio ein cyfleuster fel un o’u Canolfannau Asesu Lleol.

Editor’s Notes:

Yng Ngwynedd ac Ynys Môn, mae hefyd Canolfannau Asesu Lleol yn Meddygfa Ffordd Longford, Ysbyty Bryn Beryl a Ysbyty Dolgellau.

Bydd y Ganolfan Asesu Lleol yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Bangor yn cymryd lle’r ganolfan bresennol yn Meddygfa Glanfa, ym Mangor.