Neidio i'r prif gynnwy

Rhyddhau'r claf cyntaf â COVID-19 i fod angen triniaeth ICU yn Ysbyty Gwynedd

Roedd clapio a chymeradwyaeth i'w clywed ar hyd coridorau Ysbyty Gwynedd yr wythnos hon wrth i'r claf cyntaf i fod angen triniaeth gofal dwys gael mynd adref.

Gadawodd Brian Davies yr ysbyty dan emosiwn ddydd Llun, 20 Ebrill ar ôl trechu COVID-19.

Gwnaeth staff o'r Ward COVID, yr Uned Gofal Dwys (ICU) a Ward Moelwyn ymgynnull yn y coridorau i ddymuno'n dda i Brian ar ei ffordd adref.

Cafodd y dyn 69 oed o Gaergybi ei dderbyn i Ward COVID yr ysbyty ar 30 Mawrth. Wrth i'w gyflwr ddirywio, aethpwyd ag o i ICU lle cafodd ei roi ar beiriant anadlu am bythefnos bron.

Dywedodd: “Cyn i mi fynd i'r ysbyty, nid oeddwn i'n teimlo'n iawn, roeddwn wedi tynnu cyhyr yn fy nghefn felly roeddwn i wedi tybio mai hynny oedd yn gyfrifol.

“Ni fyddwn byth wedi meddwl fy mod wedi dal Coronafeirws, dim ond pan ddywedodd fy mab fod angen i mi fynd i'r ysbyty, roeddwn i'n meddwl y gallai fod yn rhywbeth difrifol.

“Dydw i ddim yn cofio ryw lawer o'm cyfnod yn yr ysbyty, y peth olaf rydw i'n ei gofio oedd dod dros Bont Menai mewn ambiwlans."

Dywedodd mab Brian, Aron Davies, ei fod wedi paratoi ei hun am y gwaethaf pan dderbyniodd y newyddion fod ei dad yn ICU.

"Roedd yr ychydig ddiwrnodau cyntaf pan oedd fy nhad yn yr uned gofal dwys yn rhai cythryblus, ac roedd yn hynod anodd gan na allwn i fod gydag o, yn amlwg, ond gwnaeth y staff roi diweddariadau cyson i mi ar ei gyflwr.

“Wrth i'r diwrnodau fynd heibio, magodd fwyfwy o nerth ac yn y diwedd, cafodd ei ryddhau yn y pen draw i Ward Moelwyn ar 15 Ebrill ac roedd hynny'n rhyddhad enfawr," meddai.

Mae Brian, sy'n gweithio fel gyrrwr tacsi, bellach yn bwriadu trefnu digwyddiad codi arian yn y dyfodol agos er mwyn diolch i'r staff fu'n gofalu amdano tra'r oedd yn yr ysbyty.

Dywedodd: “Byddaf yn ddiolchgar am byth i'r staff yn Ysbyty Gwynedd, maen nhw wedi achub fy mywyd.

"Roedd pob un yn hollol anhygoel, mor barod eu cymorth - gwnaethon nhw fy nhrin i fel un o'r sêr mawr!

“Pan fyddaf i nôl ar fy nhraed, byddwn i wir yn hoffi trefnu digwyddiad codi arian fel y gallaf roi rhywbeth yn ôl ac i ddiolch iddyn nhw am bopeth maen nhw'n ei wneud, maen nhw wir yn bobl anhygoel."

Dywedodd Dr Karen Mottart, Anesthetydd Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Meddygol Ysbyty Gwynedd: “Mae'n bleser i ni weld Brian yn cael dychwelyd adref heddiw ac rydym ni am ddymuno'n dda iddo yn ei adferiad parhaus.

“Mae ein meddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, yn gweithio'n hynod galed er mwyn sicrhau bod ein cleifion yn derbyn y gofal gorau posibl a hoffwn i ddiolch i bob un am eu hymdrechion."