Neidio i'r prif gynnwy

Rhowch eich barn ar ddatblygiad Ysbyty Cymuned Gogledd Sir Ddinbych

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynnig y cyfle i breswylwyr Y Rhyl i gynnig adborth ar ddatblygiad Ysbyty Cymuned Gogledd Sir Ddinbych newydd.

Er gwaethaf y pandemig COVID-19,mae’r Bwrdd Iechyd wedi parhau i weithio gyda’u partneriaid, Kier and Gleeds, ar ddatblygiad yr ysbyty newydd.

Bydd cynlluniau ar gyfer yr ysbyty newydd ac ailwampio Ysbyty Brenhinol Alexandra yn cael eu cyflwyno i Gyngor Sir Ddinbych ym Mehefin.

Cyn hyn, mae’r Bwrdd Iechyd yn gwahodd preswylwyr i weld y cynnydd a wnaed hyd yn hyn eleni a bod yn rhan o rannu barn a syniadau ynghylch y prosiect hwn.

Cynhyrchwyd fideo hedfan drwodd i roi syniad o sut bydd yr ysbyty yn edrych wedi iddo gael ei gwblhau. 

Hefyd, rhyddhawyd argraffiad artistig o’r gwaith a wnaed gan Kier and Gleeds i ailgynllunio’r ysbyty, gan ddangos lleoliad yr ysbyty sydd newydd ei ailgynllunio y tu ôl i’r Ysbyty Brenhinol Alexandra presennol.

Gall unrhyw un sy’n dymuno rhannu adborth am y prosiect wneud hyn drwy ddefnyddio’r arolwg hwn.  

Y dyddiad olaf i gymryd rhan yn yr arolwg hwn yw 17 Mehefin.