Mae cwpl wedi diolch i staff yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU) yn Ysbyty Maelor Wrecsam am y gofal a achubodd fywyd eu merch drwy roi cyfraniad i ddathlu ei phen-blwydd yn 21.
Ganwyd Elinor Jones, sydd bellach yn byw gyda'i theulu yn Kingsbridge, De Dyfnaint, 11 wythnos yn gynnar yn pwyso o dan 3 pwys, a threuliodd chwe wythnos yn yr ysbyty nes ei bod hi'n ddigon da i fynd gartref ar Nos Galan 1998.
Mae ei rhieni, Andy a Karen Jones, wedi penderfynu cefnogi'r uned ers hynny ac wedi nodi pen-blwydd arbennig Elinor drwy roi cyfraniad o £1,000 tuag at beiriant anadlu newydd i’r uned.
Dywedodd Karen: "Wna' i byth anghofio'r tro cyntaf y gwelais i Elinor, yn eithriadol o fach, yn eithaf blewog a gyda chroen tywyll, wedi'i gorchuddio â thiwbiau yn ei chrud cynnal, ac rwy'n cofio'r tristwch am nad oeddwn i'n gallu gafael ynddi.
"Arhosodd Elinor yn yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod am chwe wythnos a oedd yn gyfnod anodd i'r holl deulu, yn enwedig am ei fod adeg y Nadolig. Roedd ganddi ddau friw ar yr ymennydd, clefyd melyn sylweddol a chynhaliwyd sganiau a phrofion diddiwedd arni, ond nid oedd angen cymorth anadlu na thrallwysiad gwaed arni diolch byth.
"Ar Nos Galan cawsom yr anrheg gorau erioed - roedd Elinor yn dal i bwyso o dan 4 pwys ond roedden ni'n cael mynd â hi gartref. Roeddwn ar bigau'r drain yn gofalu am fabi mor fach weithiau, ac roedd pwy bynnag a wnaeth fy rhybuddio bod babanod sydd wedi'u geni'n gynnar yn crio mwy yn gywir, ond roedd hi'n wych cael bod gartref, fel teulu, ar ôl yr holl amser.
"I rieni babanod sy'n cael eu geni yn gynnar, rydym yn dymuno'r gorau i chi ar eich taith ac i bawb ar yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod, yn enwedig yr aelodau o staff sydd yn dal yno ac yn ein cofio, rydym yr un mor eithriadol o ddiolchgar i chi heddiw ag yr oeddem 21 o flynyddoedd yn ôl."
Mae cychwyn cynnar Elinor a'r cyswllt dilynol â thîm yr Uned dros y blynyddoedd wedi cyfrannu at ei diddordeb mewn gwyddoniaeth a meddygaeth. Wedi cael y marciau uchaf yn ei holl arholiadau TGAU a Lefel A, mae hi bellach yn ei blwyddyn olaf yn astudio Gwyddoniaeth Feddygol ym Mhrifysgol Caerwysg a hi yw Golygydd Gwyddoniaeth papur newydd ei phrifysgol.
Dywedodd Karen Hughes, Rheolwr yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod: "Rydym wrth ein boddau'n clywed am lwyddiant Elinor ac rydym yn ddiolchgar am y cymorth parhaus yr ydym yn ei dderbyn gan Karen ac Andy. Rydym yn dymuno'r gorau iddyn nhw yn y dyfodol. Pen-blwydd Hapus."