Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect sy'n cefnogi cleifion sy'n gadael ysbyty yn ennill gwobr

Mae tîm o Weithwyr Cefnogi Gofal Iechyd yn Ysbyty Alltwen wedi cael eu cydnabod â gwobr arbennig.

Llwyddodd prosiect y Gweithwyr Cefnogi Gofal Iechyd i ennill y wobr 'Ffyrdd Newydd o Weithio', a noddwyd gan Gangen Iechyd Unison Gogledd Cymru, yng Ngwobrau Cyrhaeddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eleni. 

Bwriad y prosiect yw atal oediadau i gleifion sy'n gadael yr ysbyty drwy roi cefnogaeth i'r rheiny sy'n barod i adael ysbyty ond efallai'n aros am becyn gofal, yn eu cartrefi eu hunain. 

Ers i'r fenter ddechrau yn 2018 mae wedi arbed 576 o ddyddiau yn y gwely, gan arbed oddeutu £182,000 i’r Bwrdd Iechyd. 

Dywedodd Louise Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Nyrsio ar gyfer Ysbytai Cymuned yn Ardal y Gorllewin BIPBC:  "Hoffwn longyfarch y tîm am ennill y wobr haeddiannol hon.

"Mae'r tîm wedi'i leoli ar Ward Morfa yn Ysbyty Alltwen ac yn gwneud rôl ddeuol, sy'n cynnwys eu dyletswyddau ward ac ymdrin â galwadau gan y gymuned hefyd i gefnogi cleifion yn eu cartrefi eu hunain. 

"Pan fyddant ar y ward maent yn gweithio gyda chleifion sy'n barod i'w rhyddhau ar unwaith.  Yna maent yn cefnogi'r cleifion hyn wrth iddynt fod yn barod i adael yr ysbyty ac yn helpu i barhau â'u hadferiad yn eu cartrefi eu hunain. 

"Drwy roi'r cleifion yn gyntaf a deall eu hanghenion, gan gydweithio â phob aelod o'r tîm amlddisgyblaethol mae'r fenter hon wedi dangos darpariaeth a throsglwyddiad ardderchog ac wedi gwella gofal iechyd i'n cleifion."

Dywedodd Jan Tomlinson, Ysgrifennydd Cangen Iechyd Unison Gogledd Cymru:  "Roedd pob un o'r tri a ddaeth i'r brig yn y categori ‘Ffyrdd Newydd o Weithio’ yn enghreifftiau gwych o arloesedd mewn gofal iechyd yma yng Ngogledd Cymru.

“Roeddem yn falch i gyflwyno'r wobr i'r tîm o Ysbyty Alltwen, a chawsom ein syfrdanu gyda'r gwahaniaeth y mae eu gwaith arloesol yn ei wneud i bobl sy'n byw yn yr ardal.  Rydym yn hyd yn oed yn fwy balch bod Gweithwyr Cefnogi Gofal Iechyd yn cael cydnabyddiaeth am y rôl annatod gwych y maent yn ei chwarae wrth ddarparu gofal i gleifion."

Mae'r wobr, a noddwyd gan Centreprise International, yn dathlu cyraeddiadau arbennig staff y GIG ar draws Gogledd Cymru. 

Dywedodd Jeremy Nash, Prif Weithredwr Centerprise International:  "Roedd yn fraint cael bod yn brif noddwr yng Ngwobrau Cyrhaeddiad Staff y Bwrdd Iechyd am y drydedd flwyddyn yn olynol. Roedd y gwobrau'n gyfle gwych i gydnabod yr holl bobl anhygoel sy'n gweithio i’r GIG ar draws Gogledd Cymru.

“Mae Centerprise yn ymrwymedig i gefnogi'r gymuned Cymreig a'r GIG yn gyfartal.   Rydym yn falch i gael ein cynrychioli yn y gwobrau, a oedd yn ddathliad gwych o ymdrechion ardderchog y Bwrdd Iechyd a'i staff ymroddedig."