Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect newydd i ysbrydoli a dylanwadu ar arweinwyr y dyfodol i ysgogi newid

21/06/2023

Galwad i bobl sydd â phrofiad o ddefnyddio neu weld pobl ifanc yn y system gwasanaethau plant ac oedolion i helpu i wella ansawdd gofal.

Mae Gwasanaethau Niwroddatblygiadol ac Anableddau Dysgu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi lansio prosiect newydd o'r enw 100 o Straeon, i helpu i sicrhau dirnadaeth a dealltwriaeth ynghylch profiadau gwahanol gan ystod amrywiol o bobl, i wella'r gofal a roddir i bobl ifanc a'u pontio i wasanaethau oedolion.

 

Dywedodd Arweinydd y Prosiect, Christy Hoskings, Swyddog Arweiniol ynghylch Profiad Cleifion yn y Gwasanaethau Niwroddatblygiadol: “Rydym yn dymuno cydweithio â gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio mewn gwasanaethau iechyd ac mewn gwasanaethau allanol, ac ag oedolion ifanc, rhieni a gofalwyr, sydd â phrofiad o weld pobl ifanc yn profi'r broses hon.

 

“Hanfod y prosiect yw sicrhau dealltwriaeth fanwl o brofiadau proffesiynol a bywyd gwirioneddol pobl fel y gallwn lunio a gwella prosesau pontio ar gyfer plant ac oedolion ifanc.

 

“Rydym yn dymuno deall taith pobl ifanc sy'n gysylltiedig â'r Gwasanaeth Niwroddatblygiadol, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) a'r Gwasanaethau Anableddau Dysgu a sut maent yn symud ymlaen i wasanaethau, cymorth a gofal i oedolion.”

 

Mae'r prosiect yn profi dull arloesol newydd o ymdrin ag arwain grwpiau ac adrodd straeon, gan gyfuno modelau cyd-lunio cydnabyddedig gyda phartneriaid ym Mhrifysgol Glyndŵr, Prifysgol Abertawe a Do Well Ltd. Bydd y cyfranogwyr yn cael tystysgrif arweinyddiaeth gan Brifysgol Glyndŵr.

 

Mae tîm y prosiect yn chwilio am:

  • Bobl sydd â diddordeb mewn cydweithio â gweithwyr proffesiynol eraill a theuluoedd er mwyn deall y system a dylanwadu ar newid.
  • Bydd pobl sy'n dymuno cyfranogi yn dysgu sgiliau newydd ym meysydd arweinyddiaeth a dylanwadu.
  • Sgwrsio am eu profiadau â grŵp amrywiol o bobl, yn cynnwys cleifion a theuluoedd.
  • Datblygu stori am eu profiad gan ddefnyddio theori arweinyddiaeth.
  • Cyfranogi yn y gwaith o gyd-lunio a newid cynlluniau gwasanaethau.
     

Mae'r prosiect hefyd yn cydweithio'n agos â byrddau partneriaeth rhanbarthol a gwasanaethau cyhoeddus i gysylltu'r prosiect ar draws systemau iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg.

 

Gofynnir i gyfranogwyr rannu eu profiadau personol a bydd angen iddynt neilltuo rhwng chwech a naw diwrnod o'u hamser dros gyfnod o 12 mis. Bydd mwyafrif y sesiynau yn rhai wyneb yn wyneb. Byddant hefyd yn cael tystysgrif mewn arweinyddiaeth a byddant yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r prosiect fel un o Esiamplwyr Bevan, rhaglen sy'n cynorthwyo meysydd iechyd a gofal i brofi eu syniadau arloesol eu hunain er mwyn gwella gwasanaethau.

 

I gael rhagor o wybodaeth ac i fynegi eich diddordeb, e-bostiwch Christy.hoskings@wales.nhs.uk a/neu Eirian.wynne2@wales.nhs.uk neu ffoniwch 07813720568.

Mae rhagor o fanylion am Wasanaeth Niwroddatblygiadol y Bwrdd Iechyd ar gael yma:

Y Gwasanaeth Niwroddatblygiadol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)