Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect i gefnogi cleifion sy'n gadael yr ysbyty ar restr fer prif wobr

Mae tîm o Weithwyr Cefnogi Gofal Iechyd yn Ysbyty Alltwen ar restr fer prif wobr iechyd.

Mae'r prosiect Gweithwyr Cefnogi Gofal Iechyd ar restr fer y categori 'Nyrsio Cymuned' yng Ngwobrau 'Nursing Times' eleni.

Nod y prosiect yw atal oedi ar gyfer cleifion sy'n gadael yr ysbyty drwy gynnig cefnogaeth i'r rhai sy'n barod i adael yr ysbyty ond sydd efallai'n aros am becyn gofal, yn eu cartref eu hunain.

Ers i'r fenter ddechrau yn 2018, mae wedi arbed 576 o ddyddiau gwely gan arbed oddeutu £182,000 i'r Bwrdd Iechyd.

Dywedodd Louise Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Nyrsio ar gyfer Ysbytai Cymuned yng Ngorllewin BIPBC: "Mae gan ardaloedd gwledig Dwyfor a Meirionnydd ddiffyg darparwyr gofal i alluogi cleifion i gael eu rhyddhau adref o'r ysbyty yn brydlon.

"Yn unol â mentrau megis "#Codigwisgosymud" a "#1000diwrnoddiwethaf" fe fyddylion ni am ddatrysiad i fynd i'r afael â'r problemau a ble well i roi gofal yn agosach at y cartref  nag yng nghartref y claf."

Mae'r tîm o bum Gweithiwr Cefnogi Gofal Iechyd wedi'u lleoli ar Ward Morfa yn Ysbyty Alltwen ac maent yn ymgymryd â rôl ddeuol, sy'n cynnwys eu dyletswyddau ward a hefyd mynd i'r afael â galwadau o'r gymuned i gefnogi cleifion yn eu cartrefi eu hunain.

"Pan maent ar y ward, maent yn gweithio â chleifion sy'n barod i gael eu rhyddhau yn fuan. Yna maent yn cefnogi'r cleifion hyn pan maent yn barod i adael yr ysbyty ac yn helpu i barhau â'u hadferiad yn eu cartref.

"Maent hefyd yn cefnogi cleifion dementia sydd angen amser i ail gyfeirio eu hunain ar ôl iddynt adael yr ysbyty, yn ogystal â chleifion lliniarol yn y gymuned sy'n dymuno marw gartref gyda'u teulu.

"Mae'r fenter hon, drwy roi'r cleifion yn gyntaf a sefydlu eu hanghenion, cyd weithio ag aelodau'r tîm amlddisgyblaethol, wedi dangos darpariaeth ragorol a gwell gofal iechyd i'n cleifion.

Ychwanegodd Louise, "Mae hyn yn cyfuno nid yn unig gwerthoedd y Bwrdd Iechyd ond hefyd ethos 'Gofal yn agosach at y Cartref' sy'n cyflawni'r gorau i'n cleifion.