Neidio i'r prif gynnwy

Prawf syml nad yw'n ymwthiol i helpu i roi diagnosis o broblemau gyda'r coluddyn ar gael i gleifion yng Ngogledd Cymru

Mae prawf newydd nad yw'n ymwthiol yn awr yn cael ei gynnig i gleifion gan eu Meddyg Teulu i'w gwblhau gartref, a all helpu i ddiystyru problemau difrifol gyda'r coluddyn yn effeithiol, megis canser.

Gan y gall symptomau canser y coluddyn fod yn gyffredin ac yn amhenodol, fel colli pwysau a phoen yn yr abdomen, gellir eu priodoli'n hawdd i gyflyrau llai difrifol.

 Yn flaenorol, byddai'r rhan fwyaf o bobl sydd â symptomau newydd gyda'r coluddyn yn cael eu cyfeirio am golonosgopi neu sigmoidoscopi hyblyg. Gall y triniaethau hyn fod yn amhleserus a gyda rhai risgiau.

Yn awr, mae Meddygon Teulu'n gallu gofyn am Brawf Cemegol Imiwnedd Carthol nad yw'n ymwthiol (FIT) i helpu i asesu symptomau'r claf.

Mae'r prawf FIT yn debyg i'r rhaglen sgrinio'r coluddyn ac fe anfonir pecyn yn y post i gleifion sy'n cael eu cyfeirio gan eu meddyg teulu i gasglu sampl fach o garthion, sydd yna'n cael ei anfon i labordai yng Nghaerdydd, gyda'r canlyniadau'n cael eu hanfon yn ôl at eu meddyg.

Gall y prawf godi ychydig bach o waed yn y carthion a bydd prawf FIT bositif yn dangos bod gwaedu wedi digwydd yn rhywle yn y coluddyn. Fe all hyn fod yn arwydd cynnar o ganser y coluddyn, yn ogystal â phroblemau eraill megis briwiau yn y stumog a llid yn y coluddyn.

Dywedodd Dr Jenny Liddell, Meddyg Teulu yng Nghanolfan Iechyd Corwen: "Mae'n newyddion gwych fod gennym yn awr fynediad at brawf FIT.

"Mae hyn yn ein galluogi ni i asesu cleifion sydd â symptomau all fod yn gysylltiedig â chanser y coluddyn ac yn ein galluogi i ofyn am brawf syml y gall y cleifion ei gynnal yn eu cartref ei hunain.

“Os yw’r prawf yn negyddol mae’n golygu ei fod yn annhebygol iawn bod y symptomau o ganlyniad i ganser y coluddyn, os yw’n bositif mae’n golygu y gallwn gyfeirio’r claf ar frys i weld arbenigwr i gael asesiad.”

Bydd canlyniadau'r prawf FIT yn sicrhau bod pobl sydd â risg uchel o ganser y coluddyn yn cael eu gweld yn gyflym a bod cleifion â chanlyniadau profion arferol yn osgoi ymchwiliadau ac apwyntiadau diangen i'r ysbyty.

Dywedodd Michael Thornton, Llawfeddyg Ymgynghorol Colorectol yn Ysbyty Maelor Wrecsam: "Mae canlyniadau'r profion yn golygu ein bod yn gallu blaenoriaethu cleifion sydd angen ymchwiliadau pellach ar frys.

"Mae FIT yn ein galluogi ni i ddarparu'r prawf cywir i'n cleifion ar yr adeg gywir ac mi fydd yn helpu i ganfod y rhai sydd â chanser y coluddyn yn gynnar.

“Er gwaethaf y cyfyngiadau a roddir ar y system oherwydd y pandemig rydym yn gweithio’n galed i wneud popeth o fewn ein gallu i flaenoriaethu cleifion sydd angen ymchwiliadau brys.

 “Gall yr arosiadau am ein gwasanaethau endosgopi fod yn hir a all beri straen i gleifion. Bydd y prawf FIT yn helpu i leihau endosgopïau diangen, a fydd yn ei dro yn gwella profiad y claf, yn canfod canser yn gynharach a hefyd yn cynyddu ein gallu o fewn endosgopi ar gyfer y rhai sydd angen prawf diagnostig ar frys. ”

Mae Mr Thornton a Dr Liddell yn annog unrhyw un a allai fod â symptomau canser y coluddyn i ymweld â'u meddyg teulu cyn gynted â phosibl ac i beidio ag oedi oherwydd y pandemig presennol.

“Byddwn yn annog unrhyw glaf sydd â symptomau y maent yn pryderu amdano i gysylltu â'u meddyg teulu - rydym ar agor o hyd ac mae gennym weithdrefnau ar waith i sicrhau bod pawb yn cael eu cadw mor ddiogel â phosibl.”