Neidio i'r prif gynnwy

Pled 'Helpwch ni i'ch helpu chi' gan feddyg yng Ngogledd Cymru, wrth i wasanaethau gofal cychwynnol wynebu galw digynsail

Mae staff Meddygfeydd wedi chwarae rhan allweddol yn y broses o gyflwyno brechlyn sy’n arwain y byd yng Nghymru, ond mae arnynt angen cefnogaeth y cyhoedd bellach wrth iddynt barhau i addasu i’r heriau a grëwyd gan y pandemig coronafirws, yn ôl un o brif feddygon Gogledd Cymru.

Mae Dr Chris Stockport, Cyfarwyddwr Gweithredol Gofal Cychwynnol a Chymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn apelio ar bobl i ‘ein helpu ni i’ch helpu chi’, wrth i wasanaethau gofal cychwynnol yng Ngogledd Cymru wynebu ystod o heriau. Mae'r rhain yn cynnwys dal i fyny ag ôl-groniad mawr o waith arferol y bu'n rhaid ei atal er mwyn cefnogi’r ymateb i COVID-19, galwadau digynsail newydd am ofal, anawsterau recriwtio cenedlaethol, cyfyngiadau parhaus COVID-19 a'r rhaglen frechu barhaus.

Anogir pobl i ddeall y sefyllfa, a chael mynediad at y gwasanaethau gofal iechyd mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion, a bod yn barchus tuag at staff sydd dan bwysau yn y feddygfa – y rhai sydd wedi ysgwyddo’r baich mwyaf o ymddygiad ymosodol dros y misoedd diwethaf.

“Wrth i ni ddod allan o gyfyngiadau COVID-19 yn araf, mae angen i bobl ddeall ein bod yn brysurach nag erioed wrth i ni weithio i allu cynnig y math o wasanaeth a ddarparwyd cyn y pandemig,” eglurodd Dr Stockport.

“Hyd at ddechrau mis Mehefin, roedd gofal cychwynnol wedi rhoi bron i ddwy ran o dair (385,000) o gyfanswm y brechiadau COVID-19 ar draws Gogledd Cymru, gan chwarae rhan allweddol yn un o'r cyflwyniadau brechu mwyaf effeithlon yn y byd. Mae hyn yn ein helpu i droi’r llanw ar y pandemig ond mae'n parhau i weld staff gofal cychwynnol yn gweithio'n rheolaidd gyda'r nos a thrwy gydol penwythnosau er mwyn ffitio hyn i mewn.

“Er gwaethaf yr her logistaidd enfawr hon a’r llwyth gwaith ychwanegol a ddaw yn ei sgil, mae gwasanaethau gofal cychwynnol wedi aros ar agor ac yn parhau i fod ar gael i’r rheini sydd angen cefnogaeth. Hoffwn ddiolch i'r timau hyn ledled Gogledd Cymru.

“Fodd bynnag, rydym yn wynebu storm o heriau digynsail dros y misoedd nesaf ac mae arnom angen help y cyhoedd i sicrhau y gallwn barhau i ddarparu’r gefnogaeth fwyaf priodol i bobl cyn gynted â phosibl.

“Rydym yn deall y gall pobl deimlo’n rhwystredig pan na allant gael apwyntiad, ac rydym yn gwybod bod rhai ardaloedd yng Ngogledd Cymru lle mae hyn yn cael ei deimlo’n fwy dwys. Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwch chi ein helpu ni i'ch helpu chi.

“Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch chi ein helpu ni i'ch helpu chi dros y misoedd nesaf:

Parchwch ein staff

“Byddwch yn gwrtais ac yn barchus tuag at ein staff derbynfa gofal cychwynnol a’r rhai sy’n ateb y galwadau, sy'n gwneud eu gorau glas i'ch helpu chi, yn aml, mewn amgylchiadau anodd. Rydym wedi gweld cynnydd mewn ymddygiad ymosodol tuag at staff meddygfeydd yn ystod y misoedd diwethaf ac mae hyn yn gwbl annerbyniol. ”

Tîm ehangach gofal cychwynnol

“Mae yna lawer o wahanol weithwyr proffesiynol gofal iechyd yn gweithio ym maes gofal cychwynnol sy'n alluog iawn i ddarparu cefnogaeth briodol. Gall hyn gynnwys nyrsys gofal cychwynnol, therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapyddion.

“Os cynigir apwyntiad i chi gyda gweithiwr proffesiynol iechyd gofal cychwynnol yn lle meddyg teulu, nid yw hyn yn golygu y byddwch yn cael gwasanaeth llai, neu fod eich pryder iechyd yn cael ei drin yn llai difrifol.”

Ystyriwch Fferyllfa Gymunedol

“Cofiwch y gall fferyllfeydd cymunedol ddarparu cyngor ac arweiniad arbenigol ar drin anhwylderau cyffredin, cyflyrau a’u symptomau.

“Nid oes angen apwyntiad bob amser ond efallai y gofynnir i chi aros neu ddod yn ôl os ydyn nhw'n brysur. Mae llawer o fferyllfeydd ar agor y tu allan i'r oriau arferol a gyda'r nos.

“Gallwch ddod o hyd i’ch fferyllfa gymunedol agosaf ar ein gwefan: Ble Dylwn i Fynd? - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)”

Mae ymgynghoriadau brysbennu dros y ffôn a fideo ar waith i’ch cadw chi’n ddiogel

“Rydym ni'n gwybod nad yw ymgynghoriad brysbennu dros y ffôn a fideo yn berffaith i bawb, ond mae rhai pobl wedi gweld hyn yn welliant gwych. Rydym yn gweithio'n galed i gael y cydbwysedd yn iawn.

“Byddwch yn amyneddgar a chofiwch fod y systemau hyn wedi cael eu cyflwyno i'ch cadw chi'n ddiogel a'n helpu ni i weithio mor effeithlon â phosibl, wrth i ni ddelio â galw digynsail am ofal. Os oes angen apwyntiad wyneb yn wyneb ar ôl brysbennu, yna rydym wedi ymrwymo i gynnig un.”

Cefnogaeth y tu allan i oriau

“Gallwch yn awr ffonio 111 i gael mynediad am ddim at gymorth ac arweiniad meddygol brys yng Ngogledd Cymru. Mae'r rhif hawdd ei gofio hwn yn rhad ac am ddim ac yn darparu mynediad at wasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau a'r cyngor iechyd a ddarparwyd yn flaenorol gan Galw Iechyd Cymru.

“Ffoniwch GIG 111 Cymru os yw eich cyflwr yn un brys ond nad yw’n peryglu bywyd neu os oes angen sylw meddygol brys arnoch y tu allan i oriau agor arferol meddygon teulu na all aros tan y diwrnod gwaith nesaf. Ffoniwch 999 mewn argyfwng meddygol.

“Bydd eich galwad yn cael ei ateb gan unigolyn hyfforddedig a fydd yn cymryd rhai manylion. Yna cynigir arweiniad a chefnogaeth i chi, a byddwch yn cael eich cyfeirio at y gwasanaeth mwyaf priodol, neu cewch gynnig apwyntiad yn un o'n canolfannau gofal cychwynnol. Gellir trefnu ymweliad cartref os oes angen. ”

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth ar sut i gael mynediad at y gwasanaethau gofal iechyd mwyaf priodol yn eich ardal leol, ewch ar wefan BIPBC: Ble Dylwn i Fynd? - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)