Neidio i'r prif gynnwy

Plant a phobl ifanc Gogledd Cymru i helpu i ddatblygu Siarter Plant

23/02/2022

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mewn partneriaeth â sefydliadau a chynghorau ar draws Gogledd Cymru, yn cynnal nifer o ddigwyddiadau a chyfleoedd i bobl ifanc helpu i ysgrifennu Siarter Plant, a chreu gwahaniaeth parhaol mewn meysydd sydd o bwys iddynt.

Mae Siarter Plant yn set o safonau y mae sefydliadau’n gweithio yn unol â nhw, i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu trin yn deg a bod ganddynt lais.

Bydd Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Pobl Ifanc (CAHMS) a Gwasanaethau Niwroddatblygiad y bwrdd iechyd yn arwain ar gyfres o ddigwyddiadau a sesiynau ymgysylltu ar draws Gogledd Cymru, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, i bobl ifanc a phlant eu mynychu a bod yn rhan o greu’r safonau siarter.

Bydd y digwyddiadau, a gynhelir mewn gwahanol safleoedd ar draws Gogledd Cymru gan gynnwys Erddig, Castell Penrhyn a Rheilffordd Talyllyn, yn galluogi plant a phobl ifanc i ymgysylltu â datblygu’r siarter trwy weithgareddau hwyliog a rhyngweithiol, a fydd yn canolbwyntio ar iechyd meddwl positif, lles a grymuso, gan roi profiadau positif iddynt a chyfle gwirioneddol i ddylanwadu ar sut mae sefydliadau ar draws Gogledd Cymru yn gweithio gyda phobl ifanc.

Dywedodd Christy Hoskings, Arweinydd Rhanbarthol Profiad y Claf ar gyfer Gwasanaethau Niwroddatblygiad (Plant a Phobl Ifanc): “Yn ystod y digwyddiadau a’r ymgynghoriad, byddwn yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc weithio gyda ni fel arweinwyr ifanc i barhau i ddylunio a chwblhau’r safonau ac i ddatblygu sut y byddwn yn monitro a gwerthuso’r safonau hynny wrth symud ymlaen.

“Bydd y digwyddiadau’n cynnig gofod diogel i benderfynu beth fydd yn cael ei gynnwys yn y siarter ac iddyn nhw gymryd yr awenau wrth ei ddylunio.

“Y weledigaeth hirdymor yw ein bod yn parhau i gysylltu â phobl ifanc ar draws Gogledd Cymru a’u cefnogi i ddeall eu hawliau ac i roi sgiliau a’r hyder iddynt i'w defnyddio.”

Dywedodd Sue Jones, Rheolwr Gwirfoddoli a Chynnwys y Gymuned, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru: “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu pobl ifanc i Erddig a Chastell Penrhyn yr haf hwn ac yn gobeithio y bydd y lleoliad yn eu galluogi i gyd-greu safonau’r siarter lle bydd eu lleisiau’n cael eu clywed a fydd yn cael effaith barhaol yng Ngogledd Cymru.

“Gyda chefnogaeth gan Betsi Cadwaladr, rydym hefyd wrth ein bodd yn gallu cynnig aelodaeth o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i’r holl deuluoedd dan sylw sy’n rhoi cyfleoedd pellach i bobl ifanc gael mynediad at natur, harddwch a hanes ledled Cymru, yn ogystal ag adnoddau addysgol ychwanegol ar gyfer ysgolion lleol.

“Nid yw mynediad at fannau gwyrdd erioed wedi bod mor bwysig ac rydym yn ddiolchgar i allu cynnig lleoedd y gall pobl ifanc ymweld â nhw, creu atgofion arbennig, rhannu profiadau newydd a dianc rhag bywyd bob dydd a fydd, rwy’n siŵr, yn chwarae rhan fawr yn y siarter newydd.”

Byddwn hefyd yn ymgynghori gyda phobl ifanc mewn ysgolion uwchradd a grwpiau cymunedol ar draws Gogledd Cymru gan roi’r cyfle iddynt roi eu barn ar sut y dylid datblygu’r siarter.

Am ragor o wybodaeth neu os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu digwyddiad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol e-bostiwch BCU.CAMHSNeuroPEQueries@wales.nhs.uk erbyn diwedd mis Mawrth.