Neidio i'r prif gynnwy

Penodi Jo Whitehead yn Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Mae Jo Whitehead wedi ei phenodi fel Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Bydd Jo yn ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o'i swydd gyfredol fel Prif Weithredwr Ysbyty a Gwasanaeth Iechyd Mackay yn Queensland, Awstralia. 

Ar ôl mwy na 30 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn gofal iechyd yn y DU ac Awstralia, mae Jo yn dychwelyd i'w gwreiddiau yng Ngogledd Cymru.

Dywedodd Jo: "Mae'n anrhydedd fawr i mi gael y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl a gwella canlyniadau iechyd ar draws ein cymunedau yng Ngogledd Cymru.

"Rwy'n benderfynol o helpu'r Bwrdd Iechyd i fodloni ei heriau a darparu gwasanaethau gofal iechyd y gall ein cymunedau a'n staff fod yn falch ohonynt. 

"Edrychaf ymlaen at weithio yn y GIG yng Nghymru, ac rwy'n dychwelyd gartref am mai yng Ngogledd Cymru ges i fy ngeni a'm magu felly mae'n anrhydedd o'r mwyaf.

"Am nifer o flynyddoedd, rwyf wedi edmygu'r strwythur sy'n canolbwyntio ar bartneriaeth yn y GIG yng Nghymru a'r posibiliadau mae hynny'n ei ddarparu ar gyfer datblygu gwasanaethau gofal iechyd cynaliadwy, gwych ac rwy'n edrych ymlaen at ddechrau ar y gwaith."

Dywedodd Mark Polin, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Rwy'n falch o groesawu Jo yn ôl i'r DU fel ein Prif Weithredwr newydd.  Perfformiodd yn dda iawn yn y broses recriwtio gystadleuol a gwnaeth argraff ar y Bwrdd Iechyd a'r cynrychiolwyr partner a oedd yn rhan o'i dewis. Dangosodd ddealltwriaeth gref iawn o'r heriau gofal cymdeithasol ac iechyd yng Ngogledd Cymru ac roedd ganddi synnwyr cryf am sut y dylid mynd i'r afael â nhw. 

"Bydd Jo yn darparu'r arweinyddiaeth a'r profiad y mae'r Bwrdd Iechyd ei angen ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'n gilydd i barhau i yrru'r newid a gwneud gwelliannau i'n gwasanaethau.

"Mae gan Jo gyfoeth o brofiad mewn gofal iechyd yn y DU ac Awstralia, yn ogystal â chysylltiadau cryf â Gogledd Cymru, a fydd yn fudd enfawr."

Bydd Jo yn dechrau ei rôl fel y Prif Weithredwr yn swyddogol ar 1 Ionawr 2021 ond bydd yn ymgysylltu â'r Cadeirydd, y Bwrdd a'r Tîm Gweithredol yn y cyfamser.  

Bydd Simon Dean, y Prif Weithredwr Dros Dro, yn dychwelyd i'w swydd fel Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru, o 1 Medi ymlaen.

Dywedodd Mark Polin: "Mae'r Bwrdd a minnau'n hynod ddiolchgar i Simon am arwain y sefydliad yn y cyfnod hynod heriol hwn yn ei hanes ac yn enwedig am yr ymrwymiad y mae wedi ei ddangos a'r gefnogaeth y mae wedi ei ddarparu i'r sefydliad."

Bydd Gill Harris, y Dirprwy Brif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Nyrsio, yn perfformio rôl y Prif Weithredwr hyd nes y bydd Jo'n cyrraedd ym mis Ionawr.

Ychwanegodd Mark Polin: "Rwy'n llawn hyder y bydd Gill yn arwain y sefydliad yn dda, gyda chefnogaeth gan ei chydweithwyr, ac y bydd hithau, Jo a minnau'n gallu cytuno a mynd i'r afael â blaenoriaethau a chyfeiriad y sefydliad dros y misoedd nesaf."

Nodiadau Ychwanegol:

  • Cytunwyd ar secondiad Simon Dean i PBC am gyfnod cychwynnol o bum mis ac estynnwyd hyn gan ddau arall hyd at ddiwedd Awst 2020.