Mae Jo Whitehead wedi ei phenodi fel Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Bydd Jo yn ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o'i swydd gyfredol fel Prif Weithredwr Ysbyty a Gwasanaeth Iechyd Mackay yn Queensland, Awstralia.
Ar ôl mwy na 30 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn gofal iechyd yn y DU ac Awstralia, mae Jo yn dychwelyd i'w gwreiddiau yng Ngogledd Cymru.
Dywedodd Jo: "Mae'n anrhydedd fawr i mi gael y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl a gwella canlyniadau iechyd ar draws ein cymunedau yng Ngogledd Cymru.
"Rwy'n benderfynol o helpu'r Bwrdd Iechyd i fodloni ei heriau a darparu gwasanaethau gofal iechyd y gall ein cymunedau a'n staff fod yn falch ohonynt.
"Edrychaf ymlaen at weithio yn y GIG yng Nghymru, ac rwy'n dychwelyd gartref am mai yng Ngogledd Cymru ges i fy ngeni a'm magu felly mae'n anrhydedd o'r mwyaf.
"Am nifer o flynyddoedd, rwyf wedi edmygu'r strwythur sy'n canolbwyntio ar bartneriaeth yn y GIG yng Nghymru a'r posibiliadau mae hynny'n ei ddarparu ar gyfer datblygu gwasanaethau gofal iechyd cynaliadwy, gwych ac rwy'n edrych ymlaen at ddechrau ar y gwaith."
Dywedodd Mark Polin, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Rwy'n falch o groesawu Jo yn ôl i'r DU fel ein Prif Weithredwr newydd. Perfformiodd yn dda iawn yn y broses recriwtio gystadleuol a gwnaeth argraff ar y Bwrdd Iechyd a'r cynrychiolwyr partner a oedd yn rhan o'i dewis. Dangosodd ddealltwriaeth gref iawn o'r heriau gofal cymdeithasol ac iechyd yng Ngogledd Cymru ac roedd ganddi synnwyr cryf am sut y dylid mynd i'r afael â nhw.
"Bydd Jo yn darparu'r arweinyddiaeth a'r profiad y mae'r Bwrdd Iechyd ei angen ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'n gilydd i barhau i yrru'r newid a gwneud gwelliannau i'n gwasanaethau.
"Mae gan Jo gyfoeth o brofiad mewn gofal iechyd yn y DU ac Awstralia, yn ogystal â chysylltiadau cryf â Gogledd Cymru, a fydd yn fudd enfawr."
Bydd Jo yn dechrau ei rôl fel y Prif Weithredwr yn swyddogol ar 1 Ionawr 2021 ond bydd yn ymgysylltu â'r Cadeirydd, y Bwrdd a'r Tîm Gweithredol yn y cyfamser.
Bydd Simon Dean, y Prif Weithredwr Dros Dro, yn dychwelyd i'w swydd fel Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru, o 1 Medi ymlaen.
Dywedodd Mark Polin: "Mae'r Bwrdd a minnau'n hynod ddiolchgar i Simon am arwain y sefydliad yn y cyfnod hynod heriol hwn yn ei hanes ac yn enwedig am yr ymrwymiad y mae wedi ei ddangos a'r gefnogaeth y mae wedi ei ddarparu i'r sefydliad."
Bydd Gill Harris, y Dirprwy Brif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Nyrsio, yn perfformio rôl y Prif Weithredwr hyd nes y bydd Jo'n cyrraedd ym mis Ionawr.
Ychwanegodd Mark Polin: "Rwy'n llawn hyder y bydd Gill yn arwain y sefydliad yn dda, gyda chefnogaeth gan ei chydweithwyr, ac y bydd hithau, Jo a minnau'n gallu cytuno a mynd i'r afael â blaenoriaethau a chyfeiriad y sefydliad dros y misoedd nesaf."
Nodiadau Ychwanegol: