Neidio i'r prif gynnwy

Pencampwr Codi Pŵer y Byd wedi'i ysbrydoli i helpu eraill â diabetes

03/11/2022

Mae codwr pŵer wedi diolch i Ysbyty Maelor Wrecsam am ei helpu i reoli ei ddiabetes, gan ei alluogi i ddod yn bencampwr codi pŵer Prydain a’r byd.

Cafodd Jay Penny, 19, o Wrecsam, ddiagnosis o ddiabetes Math 1 yn 2016 pan oedd ond yn 14 oed. Chwalwyd ei obeithion o ymuno â’r Fyddin, ac ar ôl rheoli ei ddiabetes gyda chefnogaeth y gwasanaeth diabetes yn Ysbyty Maelor Wrecsam, trodd at godi pŵer..

Dywedodd Jay: “Pan gefais y diagnosis yn gyntaf, roeddwn i wedi ypsétio’n fawr, yn enwedig pan sylweddolais na allwn i ymuno â’r Fyddin, a oedd wedi dryllio fy mreuddwydion ychydig ar y pryd, ond fe wnaeth fy arwain at weithio yn fy hoff gampfa, Valhalla. Campfa yn Wrecsam, sy’n adnabyddus am ei llwyddiant ym maes codi pŵer.

“Yn ystod COVID-19 fe ddechreuais godi pŵer, ac roeddwn i’n mynd i gystadlu yn fy nghystadleuaeth gyntaf ym mis Rhagfyr 2021, ond fe wnes i anafu fy hun wrth godi, ond es ymlaen i ennill fy nghystadleuaeth gyntaf yn y Rhyl yn gynharach ym mis Ebrill eleni a gymhwysodd ac a arweiniodd i mi gystadlu ac ennill Pencampwriaethau Codi Pŵer Amatur Prydain ym mis Gorffennaf.”

Gwahoddwyd Jay yn awtomatig, ar ôl ennill Pencampwriaethau Prydain yn ei gategori, i gystadlu ym Mhencampwriaethau Amatur Codi Pŵer y Byd (AWCP) fis Medi eleni ym Manceinion. Dyma le y gwireddwyd ei freuddwyd o’r diwedd trwy dorri Record Raw Squat Prydain am ei ddosbarth pwysau – Iau-Is u82.5kg, a mynd ymlaen i ennill a dwyn y teitl AWPC yn ei gategori.

Y llynedd bu Jay yn gweithio’n agos gyda Dr Rose Stewart, seicolegydd yn nhîm diabetes oedolion ifanc Ysbyty Maelor Wrecsam i gefnogi Jay drwy faterion dietegol.

Ychwanegodd: “Y llynedd cefais y dewrder i estyn allan gan fy mod ar y ffin o ddatblygu anhwylder bwyta. Cefais apwyntiad i weld Rose drwy’r tîm diabetes ac mae hi wedi bod yn help mawr. Doeddwn i ddim eisiau i’m diet ddechrau effeithio ar fy niabetes a sut rydw i’n gweld fy nghorff neu’n gweld bwyd, felly mae gweithio gyda Rose wedi bod o gymorth mawr i mi.”

Mae Jay hefyd wedi dechrau astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn ei flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion, gyda’r nod o ddod yn Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru, i helpu eraill fel ef ei hun yn y dyfodol.

Dywedodd Jay: “Rydw i eisiau bod yn hyfforddwr ar gyfer pobl â diabetes, i helpu pobl fel fi sydd ag angerdd am godi pŵer ond sydd angen y gefnogaeth ychwanegol honno hefyd. Dydw i ddim yn gweld llawer o hyfforddwyr ar gyfer codwyr pŵer â diabetes Math 1, felly rwy’n teimlo y gallaf fod o gymorth mawr, a deall mwy o’r hyn rydych chi’n mynd drwyddo gyda’r cyflwr. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn helpu pobl ifanc, a bod yn ysbrydoliaeth i’r genhedlaeth iau, mae’n sioc cael diagnosis yn ifanc ac rydw i eisiau dangos eu bod nhw’n gallu mynd ymlaen i wneud pethau anhygoel drwy reoli eu diabetes yn dda.”

Wrth siarad ar bwysigrwydd cefnogaeth seicolegol i’r rhai sydd â diabetes, dywedodd Dr Stewart: “mae byw gyda diabetes Math 1 yn golygu bod angen i bobl wneud 180 o benderfyniadau ychwanegol bob dydd. Gall y straen y mae hyn yn ei greu i bobl sy’n byw gyda diabetes a’u teuluoedd fod yn enfawr, yn enwedig yn ystod llencyndod ac oedolaeth gynnar, felly mae’n hanfodol bod pobl yn gallu cael cymorth seicolegol yn gyflym fel rhan o’u gofal diabetes arferol.”