Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsys gofal critigol o Wrecsam yn ennill prif wobr am waith i gefnogi teuluoedd mewn profedigaeth

Mae tîm o nyrsys sy'n helpu perthnasau mewn profedigaeth i ddelio â cholli anwyliaid wedi ennill prif wobr iechyd.

Cafodd staff o Uned Gofal Critigol Wrecsam eu henwi fel enillwyr Gwobr Tîm y Flwyddyn mewn digwyddiad gala grand yn Venue Cymru i ddathlu Gwobrau Cyrhaeddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 2019.

 Mae'r gwobrau, a noddir gan Centerprise International, yn dathlu llwyddiannau rhagorol staff y GIG ar draws Gogledd Cymru.

Cydnabuwyd Tîm Profedigaeth Gofal Critigol a Dilyniant Ysbyty Maelor Wrecsam am ddarparu ystod o gefnogaeth i gyn cleifion gofal critigol a theuluoedd mewn profedigaeth.

Mae hyn yn cynnwys clinigau wythnosol sy'n darparu cefnogaeth i berthnasau mewn profedigaeth yn ogystal â helpu cyn gleifion i ymdopi ag effeithiau corfforol a seicolegol hir dymor sy'n aml yn 'newid bywyd', a all ddilyn salwch critigol.

Mae blychau cof hefyd wedi'u cyflwyno i ddarparu cymorth a chysur i deuluoedd cleifion a fu farw ar yr uned gofal critigol.

Yn fwy diweddar, mae'r tîm wedi sefydlu grŵp cymorth gofal critigol, sydd wedi cael 'adborth gwych' gan gleifion a pherthnasau.

Enwebwyd y tîm gan Natasha Corcoran, Prif Nyrs yr Uned Gofal Critigol.

 

Dywedodd: "Mae bod yn glaf neu'n berthynas i glaf mewn gofal critigol yn brofiad sy'n newid bywyd. Gall gleifion gael problemau corfforol a seicolegol yn dilyn salwch critigol.
 

"Rwy'n falch iawn o’r tîm ac yn teimlo fy mod yn cael fy ysbrydoli gan y tîm, sydd bob amser yn ceisio gwella'r gwasanaeth maent yn ei ddarparu, sydd yn ei hun yn estyniad o'r hyn sydd eisoes yn rôl heriol iawn."

 

Dywedodd Jo-anne Garvie, Cyfarwyddwr Masnachol  ar gyfer noddwyr y wobr, Secure I.T. Environments Ltd: "Roeddem yn falch iawn i gefnogi'r wobr hon sydd wedi rhoi cydnabyddiaeth i dîm gwych o staff y GIG sy'n mynd y tu hwnt i'w dyletswydd i gefnogi cleifion a theuluoedd yn ystod eu hawr o angen".