Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs Ysbyty Gwynedd sydd wedi trechu canser ddwywaith yn sefydlu grŵp cymorth i helpu eraill

Mae nyrs, sydd wedi brwydro canser ddwywaith, wedi sefydlu grŵp cymorth ar-lein i helpu eraill sydd wedi cael diagnosis o'r afiechyd.  

Cafodd Christine Plant, Nyrs Arbenigol Gofal y Fron yn Ysbyty Gwynedd, ddiagnosis o ganser y coluddyn yn 2017 a thair blynedd yn ddiweddarach ym mis Medi 2020, cafodd ddiagnosis o ganser y fron. 

I helpu eraill sydd wedi bod drwy'r afiechyd a chynnig cyngor a chefnogaeth i'r rhai sy'n derbyn triniaeth ar hyn o bryd, mae hi wedi sefydlu grŵp Facebook o'r enw 'Run Free of the Big C'.

Dywedodd: "Roeddwn yn 46 mlwydd oed pan gefais fy niagnosis cyntaf o ganser y coluddyn.  Roedd yn sioc enfawr i mi, roeddwn wedi sylwi ar ychydig o waedu a chefais fy nghyfeirio am golonosgopi a phan ddarganfyddais mai tiwmor oedd yno, roeddwn wedi fy llorio. 

"Cefais lawdriniaeth, ac yn dilyn hynny, cemotherapi - derbyniais ofal arbennig gan fy nghydweithwyr drwy gydol fy nhriniaeth.  Roedd y nyrsys stoma yn anhygoel a chefais fy ysbrydoli i fod yn nyrs arbenigol fy hun."

Dywedodd y fam i ddau, a oedd wedi gweithio fel rheolwr ward ar Ward Ffrancon Ysbyty Gwynedd o'r blaen, ei bod yn torri ei chalon bod ganddi ganser am yr eildro yn dilyn mamogram arferol ym mis Mawrth 2020.

"Yn ystod y cyfnod hwnnw, roeddwn yn nyrs arbenigol yn barod yn gweithio yn nhîm Gofal y Fron felly roedd hi'n ei gwneud hi'n anodd iawn i mi ofalu am gleifion gyda chanser y fron wrth fynd drwy'r profiad fy hun. 

"Y tro hwn, roedd hyd yn oed yn fwy anodd, a thorrais fy nghalon yn gorfod dweud wrth fy rhieni a fy mhlant fy mod wedi cael diagnosis o ganser am yr ail dro.

"Yn lwcus, des drwyddi eto diolch i fy llawfeddyg anhygoel, Ms Wang, a'r tîm gofal y fron anhygoel.  Roedd fy holl gydweithwyr a ofalodd amdanaf yn ystod y ddau gyfnod yn anhygoel," ychwanegodd. 

I helpu i gefnogi ei iechyd meddwl a lles, dechreuodd Christine redeg ac mae wedi sefydlu grŵp cymorth i gynnig cyngor i rai eraill sydd wedi eu heffeithio gan ganser. 

Dywedodd: "Mae'n bwysig ofnadwy bod gennych bobl i siarad â nhw pan fydd gennych ganser.  Cefais ddiagnosis yng nghanol fy 40au, felly roedd hynny'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i mi siarad gyda phobl yn fy ngrŵp oedran a oedd yn mynd drwy'r un peth. 

"Yr un peth a oedd yn gymorth mawr i mi oedd ymarfer corff,  p'un a fyddwn yn cerdded 100 medr neu redeg 10km, roedd y synnwyr o gyflawni rhywbeth yr un fath.  Mae'n fater o fynd allan a gwneud rhywbeth. 

"Hefyd, helpodd ymarfer corff fi i wella'n gyflym yn dilyn triniaethau gyda llai o sgil-effeithiau.  Mae'r buddion seicolegol yr un mor bwysig â'r rhai corfforol.

"Mae'r grŵp ar-lein i ddarparu cefnogaeth a man lle gall y rhai sy'n mynd trwy ganser neu wedi bod trwy ganser rannu eu profiad a'u cyngor ag eraill.

"Rwyf am i bobl y mae canser yn effeithio arnynt wybod bod rhywun yno bob amser, mae wedi bod yn flwyddyn anodd gyda COVID-19 ac mae'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan ganser wedi cael heriau ychwanegol o ran peidio â gweld eu hanwyliaid neu eu ffrindiau gymaint ag y byddent fel arfer. Mae'r grŵp ar agor i'r rhai sydd angen cymorth ychwanegol."

I ymuno â grŵp cymorth Christine, chwiliwch am 'Run free from the Big C' ar Facebook