Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs yn Ysbyty Gwynedd yn cael ei choroni fel enillydd Gwobr Aur Seren Betsi

Mae nyrs sydd wedi mynd gam ymhellach i gefnogi claf a oedd yn derfynol wael a'i theulu wedi cael ei choroni fel enillydd Gwobr Aur Seren Betsi eleni.

Cafodd Leisa Jones, sy'n Nyrs Gofal Critigol yn Uned Gofal Dwys Ysbyty Gwynedd, y wobr arbennig yng Ngwobrau Cyrhaeddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eleni ar ôl ennill pleidlais gyhoeddus.

Mae'r gwobrau a noddir gan Centerprise International, yn dathlu llwyddiannau rhagorol staff y GIG o ar draws Gogledd Cymru.

Cafodd Leisa ei henwebu gan deulu Michelle Williams, yr oedd Leisa’n gofalu amdani tra'r oedd yn glaf yn yr Uned Gofal Dwys cyn iddi farw'n sydyn ym mis Medi 2018.

Ychwanegodd nith Michelle, Ceri Williams: "Roedd y gofal a gafodd Michelle a'n teulu gan Leisa yn fwy na'r hyn allwn ni fyth fod wedi gofyn amdano na'i ddisgwyl.

"Fe wnaeth yr hyn oedd y diwrnod gwaethaf ein bywydau gymaint yn haws - roedd yn garedig ac yn dosturiol ac yn ein trin fel ei bod wedi ein hadnabod ers blynyddoedd, roedd fel ei bod yn rhan o'r teulu."

Dywedodd Leisa ei bod yn falch iawn o gael Gwobr Aur Seren Betsi yng Ngwobrau Cyrhaeddiad eleni yn Venue Cymru yn Llandudno.

Dywedodd: "Hoffwn ddiolch i bawb a bleidleisiodd drosof - mae'n fraint anhygoel fy mod wedi ennill y wobr hon ac roedd cystadlu yn erbyn pobl ymroddedig a thalentog yn ei wneud hyd yn oed yn fwy swrrealaidd.

"Hoffwn ddiolch i fy nghydweithwyr gwych sy'n gweithio yn yr Uned Gofal Dwys yn Ysbyty Gwynedd, sy'n gweithio'n ddiflino dros ein cleifion ac sydd wedi fy helpu i fod y nyrs wyf heddiw.

"Roedd yn wych bod yn rhan o'r Gwobrau Cyrhaeddiad eleni ac i weld cymaint o staff yn cael eu cydnabod am eu hymroddiad i'r bwrdd iechyd. 

"Hoffwn ddiolch yn fawr i deulu Michelle Williams am fy enwebu, roedd yn Michelle yn unigolyn anhygoel ac roedd yn fraint gofalu amdani."

Dywedodd Paul Bevan, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygiad Masnachol Busnes @Llandrillo Menai: “Rydym yn falch iawn o fod yn bresennol yng Ngwobrau Cyrhaeddiad BIPBC eleni i gyflwyno’r Wobr Aur Seren Betsi.

“Dangosodd pob un o’r 12 a oedd ar y rhestr fer broffesiynoldeb, ymrwymiad a thrugaredd tuag at eu rolau.

“Hoffem longyfarch Leisa ar ennill y wobr hon, mae ei hymroddiad a’i chymeriad gofalgar wedi disgleirio a’i gwneud yn ennillydd haeddiannol.”