Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs o Ogledd Cymru yn cyrraedd y rhestr fer am wobr genedlaethol

Mae arweinydd nyrsio sy'n angerddol am ehangu sgiliau eraill yn ei phroffesiwn wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr genedlaethol.

Mae Nia Boughton, Nyrs Ymgynghorol ar gyfer Gofal Cychwynnol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr fawreddog y Coleg Brenhinol Nyrsio, dan y categori Uwch Arfer Nyrsio.

Mae prif wobrau’r proffesiwn yn dathlu arloesedd, sgiliau ac ymroddiad mewn nyrsio ar draws 15 categori.

 Dewiswyd y rheiny a gyrhaeddodd y rownd derfynol o 550 o enwebiadau, a bydd un enillydd y categorïau yn derbyn teitl Nyrs RCN y Flwyddyn 2021 mewn seremoni wobrwyo ar 12 Hydref.

Mae Nia, sydd wedi gweithio yn y proffesiwn ers dros 20 mlynedd, wedi cael ei chydnabod am ei gwaith i wella ansawdd a chysondeb yr hyfforddiant a ddarperir i nyrsys sy'n gweithio mewn lleoliadau gofal cychwynnol ar draws Gogledd Cymru.

Mae hyn yn cynnwys cyflwyno fframwaith hyfforddiant wedi'i seilio ar fodel cymdeithasol o ofal - sy'n archwilio'r ystod o ffactorau sy'n cyfrannu at iechyd unigolyn, yn hytrach na'i gyflwyniad meddygol yn unig.

Ar ôl clywed ei bod wedi cyrraedd y rhestr fer, dywedodd Nia ei bod yn 'wen o glust i glust'.

Dywedodd, "Mae'n wobr arbennig ac nid ydych byth yn meddwl y byddwch yn cyrraedd y rhestr fer ar ei chyfer."

"Mae yna gydweithwyr nyrsio arbennig wedi cyrraedd y rhestr fer, felly rwy'n hapus iawn.

"Mae'r strategaeth ar gyfer gofal cychwynnol yn y dyfodol yn rhoi mwy o bwyslais ar y model cymdeithasol, yn hytrach na'r model meddygol.  Mae'r gweithlu sydd ei angen i ddarparu hynny yn cynnwys mwy o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ond mae angen i ni eu hyfforddi, a gwneud hynny mewn ffordd strwythuredig sy'n rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau iddynt i gefnogi iechyd y boblogaeth.  I wneud hyn mae arnom angen ffordd newydd o feddwl a ffordd newydd o addysgu.

"Yn ei hanfod mae nyrsys yn gyfannol yn y ffordd y maent yn asesu cleifion, felly rydym yn edrych ar gyd-destun cyfan iechyd unigolyn, nid y cyflwyniad meddygol uniongyrchol yn unig. 

"Yr hyn sy'n gwneud gofal cychwynnol cystal yw’r nyrsio go iawn o’r crud i’r bedd.   Mae'n wych ac nid oes swydd arall sy'n debyg iddi."

Mae ymarferwyr sydd wedi bod yn defnyddio fframwaith Nia wedi dweud eu bod wedi gweld gwelliant sylweddol yn eu profiad hyfforddiant, tra bod gwerthusiad cychwynnol yn awgrymu ei fod wedi gwella canlyniadau i gleifion ac arwain at gysondeb gwell yn ansawdd yr ymgynghoriadau a gynhaliwyd gan Uwch Nyrsys Ymarferwyr.