Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs a gafodd wellhad gwyrthiol ar ôl damwain car a oedd bron yn angheuol yn dathlu'r proffesiwn a'i chydweithwyr ar Ddiwrnod Rhyngwladol Nyrsys

Mae nyrs a gafodd wellhad gwyrthiol ar ôl bod mewn damwain car yn awr yn gofalu am gleifion ochr yn ochr â'i chydweithwyr yn ystod y pandemig COVID-19. 

Roedd Megan Morris yn teithio adref yn agos i Ddolgellau wyth mlynedd yn ôl pan gollodd reolaeth o'i char mewn tywydd garw.  Oherwydd ei hanafiadau a oedd yn bygwth bywyd cafodd ei symud i Ganolfan Frenhinol Trawma Mawr Stoke. 

Ar ôl bron i saith wythnos ar yr Uned Gofal Dwys, llwyddodd Megan i wneud yr amhosibl a gwella'n llawn ar ôl treulio dros wyth mis yn yr ysbyty. 

Ar ôl cael profiad a newidiodd ei bywyd, dywedodd Megan, sy'n 25 oed, bod ganddi ymdeimlad mawr o ddyled i'r GIG.

Dywedodd: "Roedd pethau'n edrych yn wael iawn am amser hir pan oeddwn ar yr uned gofal dwys.  Roedd yn wyrthiol yn ei hun fy mod yn dal yn fyw o ystyried fy anafiadau ond bu sawl cam yn ôl - cafodd fy nheulu wybod hyd yn oed petawn yndeffro, y byddai gennyf anableddau am byth oherwydd yr anafiadau trychinebus a gefais i fy mhen.  Dechreuodd fy rhieni feddwl am brynu tŷ sydd wedi'i addasu'n well ar gyfer cadair olwyn.

"Roedd y meddygon a'r nyrsys ond yn gallu gwneud eu gorau i mi, ac roedden nhw wir yn gwneud hynny hefyd.  Ond mae'r ffaith fy mod wedi gwella'n llwyr a fy mod yn awr yn gweithio fel nyrs yn wyrth!

"Ar ôl cael profiad mor radical, gadewais yr ysbyty gydag ymdeimlad mawr o ddyled i'r GIG. 

"Pan ddechreuais astudio eto ar ôl y ddamwain roeddwn yn gwybod fy mod eisiau 'rhoi'n ôl' i'r gwasanaeth a oedd wedi rhoi gymaint i mi. 

"Roeddwn rhwng dau feddwl un ai i astudio meddygaeth neu nyrsio ac nid oeddwn yn gallu penderfynu.  Dim nes i rywun ofyn i mi "pwy wnes di werthfawrogi fwyaf pan oeddet ar dy wely yn yr ysbyty?" y gwnes i sylweddoli gyda safbwynt newydd mai nyrsio oedd yr alwedigaeth i mi.  

"Roedd y nyrsys yno i mi ar gyfer bob awr o'r dydd - boed hynny am sgwrs am hanner nos neu i addurno’r ystafell ddydd yn yr uned adsefydlu ar gyfer fy mhen-blwydd yn ddeunaw oed. 

"Gan fy mod wedi bod yn glaf mewn gwely ysbyty fy hun, rwyf wedi cael safbwynt unigryw sy'n rhoi uchelgais i mi ddarparu'r un lefel o ofal a gefais gan y nyrsys arbennig i eraill. 

"Gallaf uniaethu â'r cleifion yr wyf yn gofalu amdanynt ar lefel arall a gallaf ddod yn eiriolwr iddynt mewn ffordd sy'n aml yn bersonol.  Rwy'n meddwl ei fod yn fraint cael gofalu am eraill pan fyddent fwyaf bregus fel yr oeddwn i ar un adeg."

Dywedodd Megan a ddechreuodd fel nyrs newydd gymhwyso yn Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd ym mis Hydref 2019 nad oedd erioed wedi disgwyl y bydd angen iddi ddelio â phandemig byd-eang o fewn y chwe mis cyntaf o gymhwyso.  

Dywedodd: "Roedd dechrau fel nyrs yn yr Adran Achosion Brys lle cefais fy nhrin yn gyntaf ar ôl cael fy namwain yn arwyddocaol iawn i mi.  Mewn ffordd, roedd yn 'gylch llawn' dwys a oedd ond yn pwysleisio pa mor bell a gwyrthiol y mae fy ngwellhad wedi bod. 

"Fodd bynnag, y peth diwethaf feddyliais fyddai’n digwydd yn ystod fy ngyrfa, heb sôn am fy mlwyddyn gyntaf, oed pandemig byd-eang! 

"Er fy mod y tu allan i fy nghylch cyfforddus, rwy'n gwneud fy ngorau i feddu ar agwedd bositif a pharodrwydd i ddysgu a datblygu sgiliau newydd gan fod hwn yn gyfle mor unigryw.

"Mae'r tîm yr wyf yn gweithio gyda nhw yn wych ac yn gefnogol iawn.  Mae yna deimlad o undod yn y dasg sydd o'n blaen - ein bod ynddo gyda'n gilydd."

Dywed Megan fod yr ewyllys da a ddangoswyd i'r GIG ac i Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd yn ystod y cyfnod hwn wedi cael ei werthfawrogi'n fawr ganddi hi a'i chydweithwyr. 

"Mae'n hyfryd gweld lluniau'r enfys mewn ffenestri ar hyd y wlad sy'n rhoi'r ymdeimlad o barch ac anogaeth i ni yn y GIG - fodd bynnag, y gwirionedd yw y bydd y GIG bob amser yn camu ymlaen i wynebu'r her a byddwn yn parhau i ddarparu gofal dan yr amgylchiadau mwyaf anffafriol. 

Ychwanegodd, “Fy ngobaith yw y bydd COVID-19 yn llywio newid sydd wir ei angen yn y ffordd y mae'r GIG yn cael ei weld.  Bod y GIG yn cael ei flaenoriaethu a'i amddiffyn o rŵan ymlaen, yn ogystal â chael y gydnabyddiaeth a'r ganmoliaeth y mae wastad wedi'i haeddu." 

Ychwanegodd, "Fy ngobaith yw y bydd pethau'n newid er gwell ar ôl i hyn ddarfod a bod y GIG yn parhau i gael y gydnabyddiaeth a'r ganmoliaeth y mae wastad wedi'i haeddu."