Neidio i'r prif gynnwy

Noson i ddathlu a llongyfarch Dysgwyr Cymraeg Betsi

07/03/2022

Ar nos Fawrth (Mawrth y cyntaf) dathlodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Ddydd Gŵyl Dewi gyda seremoni i ddathlu a llongyfarch eu staff sy’n gweithio’n galed ond sydd hefyd wedi dysgu Cymraeg.  Cynhaliwyd y seremoni yng Ngwesty’r Oriel, Llanelwy.

Dechreuodd y daith ym Medi 2021 gyda’r Tîm Cymraeg yn gofyn i'r staff i enwebu eu cydweithwyr oedd wedi gwneud argraff dda arnynt drwy ddysgu Cymraeg i safon uchel a defnyddio’u sgiliau newydd i ddarparu gwell gwasanaeth i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth Cymraeg eu hiaith yng ngogledd Cymru.

Yn Ionawr roedd y beirniaid yn wynebu tasg a hanner i greu rhestr fer o 5 allan o’r nifer arwyddocaol o enwebiadau.  Y beirniaid oedd Linda Tomos, Aelod Annibynnol y Bwrdd, Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus BIPBC a'r beirniad gwadd a siaradwr anrhydeddus, Bethan Gwanas, awdur, wyneb cyfarwydd ar y teledu a thiwtor Cymraeg profiadol. 

Llongyfarchiadau ENFAWR i’n holl ddysgwyr, yn enwedig i’r 5 daeth i’r brig. Roedd y beirniaid wedi gwirioni efo safon eich Cymraeg.Dach chi gyd yn enillwyr ac yn ysbrydoliaeth i eraill i ddechrau dysgu Cymraeg.

Roedd hi'n bleser i'n beirniad gwadd, Bethan Gwanas i gyhoeddi enwau'r tri uchaf yn Anna Mackenzie (3rd) a Mark Butler (2nd). Enillydd Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn BIPBC 2022 ydi Manuela Niemetscheck o Fethesda, Seicotherapydd Celf yn Hergest, Ysbyty Gwynedd.

Derbyniodd bob un o’r pump uchaf nifer o wobrau.  Ni fyddai modd i gynnal y digwyddiad heb haelioni ein noddwyr.  Hefyd, hebryngwyd yr enillydd ar ôl y seremoni i Ysbyty Glan Clwyd i oleuo’r ysbyty yn goch, gwyrdd a gwyn, sef lliwiau baner Cymru, i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Diolch i'n noddwyr am eu cefnogaeth hael i'r digwyddiad; Lingo, Cymen, Cyngor Llyfrau Cymru, W.O.Jones, Nant Gwrtheyrn, Cymraeg Gwaith.