Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i ysbytai cymuned ac unedau mân anafiadau yng Ngwynedd ac Ynys Môn mewn ymateb i COVID-19

Mewn ymateb i'r achosion o COVID-19, mae cynlluniau wedi'u rhoi ar waith i gynyddu nifer y gwelyau sydd ar gael ar draws y chwe ysbyty cymuned yng Ngwynedd ac Ynys Môn i sicrhau bod cleifion sydd â COVID-19 yn cael gofal
ar wahân.

Yng Ngwynedd, mae hyn yn golygu cau Unedau Mân Anafiadau dros dro yn Ysbyty Bryn Beryl, Ysbyty Dolgellau ac Ysbyty Tywyn i sicrhau bod nifer digonol o staff i ofalu am y cleifion ar y wardiau yn y gymuned.

Mae Uned Mân Anafiadau Ysbyty Alltwen yn parhau'n weithredol yn ystod yr achosion o COVID-19 ac mae ar agor 24 awr y diwrnod, saith niwrnod yr wythnos.

Dywedodd Dr Eilir Hughes, Meddyg Teulu ac Arweinydd Clinigol yn Ysbyty Bryn Beryl: "Rydym yn ymwybodol iawn o’r angen i geisio atal yr haint COVID-19 rhag lledaenu, felly rydym wedi cyflwyno system newydd yn ein hysbytai cymuned i gadw pawb mor ddiogel â phosibl.

“Mae cleifion a amheuir fod COVID-19 arnynt neu y cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt yn cael gofal yn Ysbyty Bryn Beryl ac Ysbyty Dolgellau, tra bod cleifion â chyflyrau nad ydynt yn gysylltiedig â COVID-19 yn cael gofal yn Ysbyty Alltwen, Ysbyty Tywyn ac Ysbyty Eryri.”  

Yn Ynys Môn, mae cleifion a amheuir fod COVID-19 arnynt neu y cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt hefyd yn cael gofal yn Ysbyty Penrhos Stanley ond mae cleifion sydd angen gofal brys yn gallu cael mynediad at yr Uned Mân Anafiadau o hyd mewn rhan ar wahân o'r ysbyty sydd ar agor rhwng 8am a 8pm saith niwrnod yr wythnos.

Dywedodd Ffion Johnstone, Cyfarwyddwr Ardal y Gorllewin ar gyfer Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr,: "Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod gan y cyhoedd fynediad at ein gwasanaeth Mân Anafiadau yn y gymuned o hyd.

"Mae hyn yn atal yr angen i bobl ymweld ag Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd, oni bai ei fod ar gyfer anaf difrifol neu anaf sy'n bygwth bywyd.

"Rydym yn deall y gall cau rhai o'n Hunedau Mân Anafiadau dros dro arwain at rai pobl yn teithio pellter hirach mewn rhai achosion, ac rydym yn ymddiheuro am hyn.  Ond rydym yn gobeithio bod pobl yn deall fod hyn yn ddatblygiad roedd yn rhaid i ni ei wneud i helpu i gadw pawb mor ddiogel â phosibl."

Gall Unedau Mân Anafiadau drin:

  •  Brathiadau neu bigiadau (pryfed, anifeiliaid a phobl)
  •  Mân losgiadau neu sgaldiadau
  •  Dulliau atal cenhedlu y tu allan i oriau fferyllfa
  • Mân anafiadau i’r llygaid
  •  Mân anafiadau fel ysigiadau
  •  Mân anafiadau i'r pen (plant ac oedolion)
  •  Anafiadau i'r trwyn
  • Mân anafiadau i'r cefn