Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau dros dro i barcio a llwybrau mynediad ar gyfer Ysbyty Glan Clwyd

Mae newidiadau dros dro ar waith ar sut i gael mynediad at Ysbyty Glan Clwyd fel rhan o’n mesurau i gadw staff a chleifion yn ddiogel.

Rydym wedi gwneud newidiadau i gefnogi cadw pellter cymdeithasol ar y safle ac i helpu cadw staff a chleifion yn ddiogel.

Mae parcio cyffredinol i gleifion ac ymwelwyr yn awr wedi’i ddyrannu i feysydd parcio un a dau, sydd wedi’u lleoli yn nhu blaen yr ysbyty a  nesaf at yr Adran Achosion Brys. Yn awr dylai’r holl draffig ymwelwyr cyffredinol gyrraedd y safle drwy’r gylchfan fach yn nhu blaen yr ysbyty.

Mae’r meysydd parcio pwrpasol ar gyfer gwasanaethau mamolaeth, gwasanaethau canser a phaediatreg yn aros yr un fath, lle gellir cael mynediad atynt drwy’r ail fynedfa drws nesaf i Faenol Fawr.

Mae’r llefydd parcio sy’n weddill ym meysydd parcio tri, pedwar, pump a chwech ar ochr a chefn yr ysbyty wedi’u dynodi ar gyfer  staff. Mae mynediad at y meysydd parcio hyn hefyd drwy’r ail fynedfa drws nesaf i Faenol Fawr.

Gofynnir i staff yn awr gyrraedd yr ysbyty trwy un o’r tri phwynt mynd i mewn ac allan i staff:

  • Prif Fynedfa B yn nhu blaen yr ysbyty
  • Y fynedfa mamolaeth a phaediatreg yng nghefn yr ysbyty
  • Y fynedfa drws nesaf i CT a sganio, drws nesaf i Ganolfan Cardiaidd Gogledd Cymru

Mae gwasanaeth parcio a theithio’r ysbyty hefyd wedi’i wahardd dros dro.

Mae arhosfan bysiau'r ysbyty hefyd wedi symud dros dro i’r brif ffordd y tu allan i’r ysbyty i leihau traffig i mewn i safle’r ysbyty.

Mae arwyddion dros dro i fyny i roi gwybod am y newidiadau hyn i’r rheiny sy’n ymweld â’r safle.