Mae newidiadau dros dro ar waith ar sut i gael mynediad at Ysbyty Glan Clwyd fel rhan o’n mesurau i gadw staff a chleifion yn ddiogel.
Rydym wedi gwneud newidiadau i gefnogi cadw pellter cymdeithasol ar y safle ac i helpu cadw staff a chleifion yn ddiogel.
Mae parcio cyffredinol i gleifion ac ymwelwyr yn awr wedi’i ddyrannu i feysydd parcio un a dau, sydd wedi’u lleoli yn nhu blaen yr ysbyty a nesaf at yr Adran Achosion Brys. Yn awr dylai’r holl draffig ymwelwyr cyffredinol gyrraedd y safle drwy’r gylchfan fach yn nhu blaen yr ysbyty.
Mae’r meysydd parcio pwrpasol ar gyfer gwasanaethau mamolaeth, gwasanaethau canser a phaediatreg yn aros yr un fath, lle gellir cael mynediad atynt drwy’r ail fynedfa drws nesaf i Faenol Fawr.
Mae’r llefydd parcio sy’n weddill ym meysydd parcio tri, pedwar, pump a chwech ar ochr a chefn yr ysbyty wedi’u dynodi ar gyfer staff. Mae mynediad at y meysydd parcio hyn hefyd drwy’r ail fynedfa drws nesaf i Faenol Fawr.
Gofynnir i staff yn awr gyrraedd yr ysbyty trwy un o’r tri phwynt mynd i mewn ac allan i staff:
Mae gwasanaeth parcio a theithio’r ysbyty hefyd wedi’i wahardd dros dro.
Mae arhosfan bysiau'r ysbyty hefyd wedi symud dros dro i’r brif ffordd y tu allan i’r ysbyty i leihau traffig i mewn i safle’r ysbyty.
Mae arwyddion dros dro i fyny i roi gwybod am y newidiadau hyn i’r rheiny sy’n ymweld â’r safle.