Neidio i'r prif gynnwy

Neges dorcalonnus oddi wrth dad heb ei frechu at fam ei blant wrth iddo orwedd yn marw gyda Covid

07.01.22

Mae neges dorcalonnus gan dad oedd yn marw wedi datgelu y byddai wedi gwneud rhywbeth i gael brechiad Covid.

Fe wnaeth Stephen Doyle, 45 oed, anfon y neges destun at ei gynbartner Nichola, mam i dri o'i blant.

Mae marwolaeth Stephen, oedd heb ei frechu ond a oedd fel arall yn iach, a fu farw o gymhlethdodau Covid ar Ionawr 3, wedi “dinistrio” ei berthnasau a’i ffrindiau.

Siaradodd ei gyfnither Michelle Pierce, ymarferydd nyrsio yn Ysbyty Llandudno, ar ran y teulu.

Dywedodd eu bod yn dymuno i bobl sylweddoli bod coronafeirws yn effeithio ar bobl iau, iach nad ydyn nhw wedi cael eu brechu - a’u teuluoedd hefyd.

Dywedodd Michelle, sy'n 54: “Pan oedd Stephen yn yr ysbyty, tecstiodd ei gynbartner Nichola a dweud,‘ Rwy’n mynd i gael y pigiadau cyn gynted ag y gallaf i’.



“Dywedodd nad oedd fyth am brofi hynny eto. Yn anffodus, ni chafodd y cyfle i gael ei frechu. Roedd hi'n rhy hwyr iddo.

“Roedd yn erbyn y brechiad cyn iddo fynd i mewn a buaswn yn dweud bod yr holl siarad ar gyfryngau cymdeithasol wedi dylanwadu arno.

“Nid oedd ganddo unrhyw gyflyrau meddygol isorweddol. Roedd yn abl ac yn iach.”

Roedd y cyn ddociwr, a oedd yn gweithio fel goruchwyliwr anfon ar adeg ei farwolaeth, eisoes wedi bod yn yr ysbyty oherwydd Covid ond cafodd ei ryddhau â gwrthfiotigau ganol fis Rhagfyr.

Dywedodd Michelle: “Nid ydym yn gwybod a ryddhaodd ei hun ai peidio ond roedd yn hunan-ynysu.  Aeth ei gyn-bartner Nichola i'w weld ar Ragfyr 22 a'i ganfod yn sâl iawn.”

Galwodd 999 ar unwaith ac aildderbyniwyd Stephen i'r ysbyty gydag anawsterau anadlu a lefelau ocsigen isel iawn yn ei waed.

O fewn 24 awr cafodd ei symud i uned therapi dwys yr ysbyty (ITU) ac ar ddydd Nadolig, gwnaed y penderfyniad i'w roi ar beiriant anadlu, i anadlu ar ei ran.

Dywed y teulu fod ganddo Thrombosis Gwythiennau Dwfn (DVT) yn ei goes hefyd, ac roedd hynny'n peri pryder i'r tîm meddygol.

Dywedodd Michelle: “Â'r Flwyddyn Newydd yn nesáu, roedd y staff meddygol yn eithaf cadarnhaol ac yn ceisio ei gael oddi ar y peiriant anadlu ond roedd ei gorff yn ymladd hynny ac roedd yn rhaid iddynt stopio.  Roedd angen anadlu mecanyddol arno o hyd i'w alluogi i barhau i anadlu.

“Cawsom alwad ar 2 Ionawr i ddweud fod ei gyflwr wedi dirywio.”

Dywedodd meddygon wrth y teulu fod Stephen wedi datblygu niwmothoracs dwyochrog, sy'n golygu bod y ddau ysgyfant wedi methu.  Bu'n rhaid i glinigwyr fewnosod pedwar draen yn ei frest i'w helpu i anadlu.

Gall ysgyfaint cleifion Covid ddod yn llai hyblyg sy'n golygu bod angen mwy o bwysedd i'w hawyru.

Gall hyn arwain at fethiant yr ysgyfaint. Yn drist iawn yn achos Stephen, methodd y ddau ysgyfant.

Dywedodd Michelle: “Fe wnaeth y tîm meddygol yn Ysbyty Warrington ein galw ni i mewn ac egluro eu bod yn brin o opsiynau.

“Ar 3 Ionawr, fe wnaethant ddweud wrth y teulu nad oedd unrhyw beth y gallent ei wneud.  Felly gwnaed y penderfyniad i ddirwyn y driniaeth i ben.”

Dywedodd Michelle fod mam Stephen, Janet, ei chwaer Nicola a’i gyn-bartner yn dymuno i bobl ddeall nad yw Covid-19 yn effeithio ar bobl fregus yn unig.

Ychwanegodd: “Mae angen i bobl wybod fod hyn yn digwydd i bobl iach. Os gallwn achub un person trwy eu perswadio i fynd i gael eu brechu, mae'n werth adrodd ein stori.

“Roedd yn hogyn mor ddoniol. Byddai'n hoffi gwneud i bobl chwerthin ac roedd yn wastad yn mwynhau cael hwyl. Roedd wrth ei fodd yn treulio amser gyda'i blant a'u gwneud yn hapus.”

Datgelodd Michelle, a gollodd ei thad-yng-nghyfraith oedd hefyd heb ei frechu i Covid, fod y teulu cyfan yn “wedi'n dinistrio ac yn syfrdan, yn ddig ac yn rhwystredig” - ac yn teimlo y gellid bod wedi osgoi eu torcalon.

“Nid yw mam Stephen, fy modryb, yn dymuno i neb brofi'r hyn rydyn ni'n ei brofi,”meddai.  “Nid oes angen i lawer o bobl brofi hyn, nag oes? Dylent fynd i gael eu brechu.

“Nid oedd symptomau difrifol gan yr holl bobl yr ydym yn eu hadnabod a gafodd eu brechu ond a ddaliodd Covid.  Mae pobl yn credu pethau heb unrhyw dystiolaeth.

“Ewch i gael eich brechu ac atal eich teulu rhag profi'r hyn yr ydym ni fel teulu yn ei brofi - gellid ei osgoi. "

Dywedodd cyfarwyddwr meddygol gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Dr Nick Lyons:  “Ni allaf ond cynnig cydymdeimlad â Michelle a'i theulu yn eu colled drist.

“Rwyf hefyd am gydnabod eu dewrder yn meddwl am eraill mor fuan ar ôl colli rhywun annwyl.

“Wrth gwrs, maent yn llygad eu lle - cael cwrs llawn o frechiadau Covid yw'r ffordd orau o bell ffordd i amddiffyn eich iechyd yn ystod y pandemig.

“Buaswn yn annog pobl i wrando ar eu stori a gwneud trefniadau i gael eu brechu nawr, trwy droi at ein tudalen frechu bwrpasol yn: Brechiadau COVID-19 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)