Neidio i'r prif gynnwy

Myfyrwyr Cadetiaid Nyrsio newydd yn ymuno ag Ysbyty Maelor Wrecsam fel rhan o bartneriaeth â Choleg Cambria

02/12/2021

Mae dyfodol nyrsio Gogledd Cymru cyn iached â’r gneuen yn dilyn partneriaeth arloesol rhwng Coleg Cambria a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. 

Mae un ar bymtheg o ddysgwyr o safle Iâl y coleg yn Wrecsam ar leoliad gwaith dwy flynedd yn Ysbyty Maelor Wrecsam. 

Mae’r ‘Cadetiaid Nyrsio’ yn cyfuno amser yn yr ystafell ddosbarth gydag un diwrnod yr wythnos ar wardiau gwahanol a gwahanol feysydd gofal.

Maen nhw wedi mwynhau’r wythnosau cyntaf o’r fenter beilot ac maen nhw’n ennill profiad gwerthfawr ochr yn ochr â staff meddygol hyfforddedig. 

Dywedodd Gill Harris, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Fel ysbyty sy’n darparu gofal ar gyfer cymunedau lleol, rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni’n helpu i gefnogi a dylanwadu ar lwybrau gyrfa’r Cadetiaid Nyrsio. 

“Mae’r Bwrdd Iechyd yn dathlu’r cam ymlaen o ran tyfu gweithlu’r dyfodol ac adnabod y buddion cadarnhaol llawn o gael Cadetiaid Nyrsio yn gweithio ochr yn ochr â’n timau ar gyfer ein cleifion presennol."

Dywedodd Claire Williams, sef Cyfarwyddwr Cwricwlwm Cambria ar gyfer Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, bydd yr undeb yn rhoi blas i fyfyrwyr o fywyd ysbyty a lleoliadau ymarferol. 

“Mae ein perthynas gyda’r bwrdd iechyd yn parhau i fynd o nerth i nerth ac wedi darparu cyfle unigryw i’n dysgwyr i archwilio i wahanol agweddau o ofal iechyd a meddyginiaeth,” meddai Claire. 

“Dros y 12  mis nesaf byddan nhw’n gweithio mewn tri maes o’r ysbyty; mae’r cylchdroad hwnnw yn galluogi iddyn nhw arbenigo mewn gwahanol feysydd ac ehangu eu sgiliau wrth ddarganfod beth sy’n eu gweddu nhw orau, a pha ddisgyblaeth yr hoffen nhw ei dilyn fel gyrfa. 

“Byddan nhw’n symud ymlaen at yr ail flwyddyn, lle mae’r posibiliad o weithio sifftiau hyblyg yn yr ysbyty. 

“Mae’n ymgais gydweithredol ac mae’n rhaid i mi ddiolch yn fawr i’n tiwtor arweiniol sef Stefanie Matthews, sydd wedi gweithio ochr yn ochr â’r bwrdd iechyd i gyflwyno hyn, i ofalu am y myfyrwyr ac i ddarparu cyfleoedd cyfoethogi er mwyn eu paratoi nhw ar gyfer eu lleoliadau gwaith.” 

Ychwanegodd Vicky Edwards, Is-bennaeth Astudiaethau Technegol: “Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyfrannu at y cwricwlwm ac wedi teilwra’r lleoliadau gwaith i fodloni anghenion wardiau penodol a’r mathau o gleifion y byddan nhw’n gofalu amdanyn nhw, fel bod y Cadetiaid Nyrsio yn dysgu’r un prosesau ar y cwrs hwn a fyddan nhw’n eu defnyddio yn eu swyddi o ddydd i ddydd. 

“Mae hyn yn golygu ein bod ni’n hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o nyrsys gyda’n gilydd ac yn helpu i fodloni’r gofyn yn y sector ar gyfnod hollbwysig yn sgil heriau pandemig Covid-19 a recriwtio cenedlaethol. 

“Mae’r grŵp cyntaf wedi dechrau ar eu rhaglen, gan ddangos gwytnwch ac awydd i ddysgu a helpu pobl - mae hyn yn ddechrau ar daith gyffrous iddyn nhw.” 

Yn ochr yn ochr â’u tasgau galwedigaethol bydd y dysgwyr yn astudio Lefel 3 CBAC Iechyd a Gofal Cymdeithasol mewn Egwyddorion ac Ymarfer, Gwyddoniaeth Feddygol CBAC, a Chymhwyster Craidd Lefel 2 City & Guilds mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. 

Ewch i www.cambria.ac.uk neu anfonwch e-bost at enquiries@cambria.ac.uk am ragor o wybodaeth. Fel arall, ffoniwch 0300 30 30 007.