Neidio i'r prif gynnwy

Miliwn o bigiadau COVID-19 wedi'u rhoi i bobl yn byw neu'n gweithio yng Ngogledd Cymru

Mae dros un filiwn o’r brechiad COVID-19 wedi’u rhoi i bobl sy’n byw neu’n gweithio yng Ngogledd Cymru.

Cyrhaeddwyd y garreg filltir arwyddocaol hon yr wythnos hon, naw mis ar ôl i’r rhaglen frechu COVID-19 ddechrau ym mis Rhagfyr 2020.

Mae oddeutu naw deg wyth y cant o’r pigiadau hyn wedi’u rhoi gan staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a phartneriaid gofal cychwynnol, gyda’r gweddill yn cael eu rhoi yn Lloegr, neu siroedd eraill yng Nghymru.

Mae’r Bwrdd Iechyd yng ngogledd Cymru wedi chwarae rôl arwyddocaol yng nghyflwyniad y brechiad sy’n arwain ar draws y byd, sef y rhaglen imiwneiddio fwyaf sydd erioed wedi’i ymgymryd gan y GIG.

Ers Rhagfyr 2020, mae pigiad COVID-19 wedi cael ei roi i berson sy’n byw neu’n gweithio yng Ngogledd Cymru bob 24 eiliad.

Mae’r brechiadau hyn wedi’u rhoi mewn cartrefi gofal a dros 200 o wahanol leoliadau, gan gynnwys meddygfeydd MT, canolfannau brechu torfol, clinigau symudol a fferyllfeydd cymunedol, fel rhan o ymdrech logistaidd enfawr.

O heddiw (dydd Gwener 20 Awst), mae 521,812 o bobl sy’n byw neu’n gweithio yng Ngogledd Cymru wedi derbyn dos cyntaf, tra mae 484,904 wedi cael eu brechu’n llawn gyda’r ddau ddos.

Meddal Gill Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth:
“Mae wedi cymryd ymdrech aruthrol i gyrraedd y pwynt hwn a hoffwn ddweud diolch o waelod calon i’n staff, contractwyr gofal cychwynnol, sefydliadau partner a gwirfoddolwyr am eu cefnogaeth anhygoel dros y naw mis diwethaf, yn ogystal â phobl ar draws Gogledd Cymru sydd wedi derbyn y cynnig o gael y brechiad.

“Mae cyflymder ac effeithlonrwydd ein rhaglen frechu COVID-19 wedi arwain at ostyngiad sylweddol yn y nifer o bobl sy’n marw neu sydd angen triniaeth ysbyty gyda’r firws.  Mae hefyd wedi galluogi i’r cyfyngiadau COVID-19 gael eu llacio fel y gallwn ddechrau mwynhau rhyw fath o normalrwydd eto.

“Rydym yn gwybod bod llawer mwy o waith i’w wneud i orffen y gwaith – gan gynnwys brechu mwy o bobl ifanc a chyflwyno’r rhaglen atgyfnerthu COVID-19, a fydd yn dechrau fis nesaf.

“Mae’r drws wastad ar agor i’r rhai sydd ddim eto wedi dod ymlaen i gael eu brechiad.  Gallwch naill ai drefnu eich pigiad o flaen llaw gan ddefnyddio ein gwasanaeth trefnu apwyntiad ar lein, neu fynychu un o’n sesiynau galw heibio, lle nad oes angen apwyntiad.”

Yn gynharach yr wythnos hon, derbyniodd, Chloe Rogers, 17 oed o Wrecsam, y miliwnfed brechlyn COVID-19. Meddai: “Fe wnes i benderfynu cael y brechiad oherwydd bod y teulu cyfan wedi cael un ac roeddwn i eisiau amddiffyn eraill, yn ogystal â gallu mynd i glybiau nos pan fydda i’n troi’n 18 oed.”

I drefnu eich brechiad COVID-19, i weld manylion am y sesiynau galw heibio a dod o hyd i ateb i’r Cwestiynau Cyffredin am y brechlyn, ewch i wefan BIPBC: https://bipbc.gig.cymru/covid-19/brechlyn-covid-19/