Neidio i'r prif gynnwy

Meddyg yn annog y cyhoedd i beidio â gohirio triniaeth frys oherwydd y pandemig COVID-19

Gyda COVID-19 a phellhau'n gymdeithasol bellach yn rhan fawr o'n bywydau, mae gweithwyr proffesiynol iechyd yn poeni fwyfwy bod pobl yn peidio â cheisio triniaeth frys rhag ofn iddynt ddal y firws.

Mae'r nifer o bobl sy'n mynychu adrannau Achosion Brys Cymru wedi lleihau hyd at 50 y cant ers dechrau'r pandemig coronafeirws. 

Dywedodd Dr Ash Basu, Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Frys yn Ysbyty Maelor Wrecsam: "Ers dechrau’r pandemig rydym wedi gweld cwymp sylweddol yn nifer y cleifion sy’n cael eu derbyn gydag argyfyngau dilys fel poenau yn y frest a allai fod yn symptomau trawiad ar y galon, argyfyngau diabetig a strôc.

"Mae hyn yn bryderus i ni sy'n gweithio yn yr Adrannau Achosion Brys, oherwydd mae unrhyw un sy'n oedi cyn ceisio triniaeth yn rhoi eu hiechyd hirdymor mewn perygl, felly rydym eisiau pwysleisio i'r cyhoedd ein bod yn dal ar agor ar gyfer achosion brys. 

"Hoffem sicrhau ein cymunedau bod yr holl gleifion sy'n bresennol yn yr Adran Achosion Brys yn cael eu sgrinio'n briodol ac mae gennym ardaloedd dynodedig ar gyfer cleifion â materion nad ydynt yn gysylltiedig â COVID.

"Hoffwn bwysleisio i unrhyw un sy'n teimlo fel bod angen triniaeth frys arnynt i ddod i'r Adran Achosion Brys neu fel arall os nad yw eich salwch yn argyfwng, gallwch ymweld â'ch Meddyg Teulu neu Fferyllydd, yn ogystal â'ch Uned Mân Anafiadau agosaf."

Mae nifer o Unedau Mân Anafiadau ar agor ar draws Gogledd Cymru sy'n gallu darparu triniaeth ar gyfer mân anafiadau a salwch. 

Gall Unedau Mân Anafiadau drin:

  • Brathiadau neu bigiadau (pryfed, anifeiliaid a phobl)
  •  Mân losgiadau neu sgaldiadau
  •  Dulliau atal cenhedlu y tu allan i oriau fferyllfa
  • Mân anafiadau i’r llygaid
  •  Mân anafiadau fel ysigiadau
  •  Mân anafiadau i'r pen (plant ac oedolion)
  •  Anafiadau i'r trwyn
  •  Mân anafiadau i'r cefn/y gwddf

Gallwch ddod o hyd i gyngor pellach i helpu i'ch cyfeirio at y gwasanaeth cywir ar gyfer eich anaf neu'ch salwch drwy ymweld â:

https://bipbc.gig.cymru/cleifion-ac-ymwelwyr/gwasanaethau/gwasanaethau-iechyd-lleol/