Neidio i'r prif gynnwy

Meddyg ymroddedig yn ennill gwobr am 'fynd y filltir ychwanegol' yn ystod y pandemig

25/10/2022

Mae Meddyg Ymgynghorol Gofal Critigol wedi ennill gwobr am ei waith hollbwysig yn ystod COVID-19 yn cynorthwyo cleifion a staff yn Ysbyty Maelor Wrecsam. 

Nid yn unig y bu Dr Andy Campbell yn gweithio trwy gydol pandemig COVID-19 ar yr Uned Gofal Critigol, ond derbyniodd rôl Arweinydd Clinigol yr uned hefyd, gan fod yn arweinydd ysbrydoledig yn ystod y cyfnod mwyaf anodd a heriol. 

Cyhoeddwyd enw Dr Campbell fel enillydd y Wobr Ymateb ac Adferiad COVID-19 - Unigolyn ar noson Gwobrau Staff 2022 Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), nos Wener, 21 Hydref. 

Dywedodd yr enwebydd Helen Williams, Metron yr Uned Gofal Critigol: "Cyn y don gyntaf, roedd lefel uchel o ofid a phryder, a oedd wedi'i waethygu gan yr erchyllterau a ddangoswyd ar y newyddion a'r cyfryngau cymdeithasol a oedd yn digwydd mewn Unedau Gofal Critigol ym mhedwar ban byd. Gwnaeth Dr Campbell roi cymorth, sicrwydd ac arweiniad o fore gwyn tan nos i'r tîm Gofal Critigol. Gwnaeth hyn barhau yn y blynyddoedd dilynol. Mae ei arweinyddiaeth a'i ddibynadwyedd wedi bod yn gefn i'r tîm yn ystod cyfnod hynod anodd a gwirioneddol feichus.  

"Trwy gydol y pandemig, roedd yn cynnig cymorth proffesiynol hynod werthfawr, ond cymorth personol hefyd i'r Tîm Gofal Critigol. Rhoddodd o'i amser yn gyson i sicrhau bod yr holl staff mor ddiogel a pharod â phosibl ar gyfer yr hyn a allai ddod, a gwnaeth sicrhau ei fod ar gael 24 awr y dydd, saith niwrnod o'r wythnos waeth a oedd ar ddyletswydd ai peidio. 

"Mae Dr Campbell wir yn cynrychioli aelod o staff sy'n mynd y filltir ychwanegol ac sy'n dangos gwerthoedd Betsi yn ei arferion o ddydd i ddydd. Fel Gwasanaeth Gofal Critigol cyfan, rydym ni'n hynod ddiolchgar am bopeth a wnaeth ac y mae'n parhau i'w wneud i'n holl staff a'n cleifion a'u teuluoedd." 

Pan oedd y pandemig yn ei anterth, gwnaeth Dr Campbell aberth personol enfawr trwy symud allan o'r cartref teuluol i gadw oddi wrth ei wraig a'i ddau fachgen bach ac i gyfyngu ar eu risg o gael cyswllt â'r feirws. 

Dywedodd Alison Pawley, Ysgrifennydd Cangen BIPBC ar gyfer noddwr y wobr Unite: "Mae pob un o'r tri sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, yn ogystal â channoedd o staff eraill y GIG sy'n gweithio yng Ngogledd Cymru, wedi dangos aberth, cyfraniad ac ymroddiad aruthrol i ofalu am eraill dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. 

"Roedd yn bleser gen i gyflwyno'r wobr i Dr Campbell. Mae ei gyfraniad yn nodweddu'r rhinweddau anhunanol a gofalgar sy'n gwneud y GIG mor arbennig." 

Dywedodd Jeremy Nash, Prif Swyddog Gweithredol Centerprise International, prif noddwr y gwobrau: “Roeddwn yn hynod falch o glywed y straeon rhagorol am garedigrwydd, gofal, trugaredd a dewrder yn wyneb caledi a ddangoswyd gan y rhai a oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol yng ngwobrau BIPBC.

“Hon yw’r bedwaredd flwyddyn i Centerprise International noddi’r gwobrau hyn, a blwyddyn ar ôl blwyddyn, rydym yn parhau i gael ein syfrdanu i ba raddau y bydd staff y GIG yng Ngogledd Cymru yn mynd allan o’u ffordd i roi cymorth i gleifion yn yr ardal ac i’w cydweithwyr.

“Llongyfarchiadau, nid yn unig i’r enillwyr heno, ond i bawb a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer gwobrau eleni.”