Neidio i'r prif gynnwy

Meddyg gofal critigol yn helpu i gyhoeddi llyfr newydd i gefnogi gofal o ansawdd i gleifion difrifol wael

09/02/2022

Mae llyfr newydd, a gyd-olygwyd gan feddyg o Ysbyty Maelor Wrecsam, wedi’i gyhoeddi i helpu i arwain gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar y defnydd o uwchsain i ofalu am gleifion sy’n difrifol wael.

Mae uwchsain yn weithred anfewnwthiol sy’n defnyddio tonnau sain amledd uchel i greu delwedd o’r tu mewn i’r corff, a all helpu i wneud diagnosis a rheoli cyflwr.

Cafodd y llyfr o’r enw Ultrasound in the Critically Ill: A Practical Guide ei gyd-olygu gan Dr Andy Campbell, Arweinydd Clinigol a Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Gofal Critigol yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Mae’r llyfr yn helpu i atgyfnerthu galluoedd craidd gwahanol ddulliau o uwchsain gan gynnwys atsain, sy’n edrych ar sganiau uwchsain wrth erchwyn y gwely i’r galon, yr ysgyfaint a’r abdomen, tra hefyd yn dangos ei ddefnydd mewn diagnosis niwro, llwybrau anadlu, fasgwlaidd a chyhyrysgerbydol.

Dywedodd Dr Campbell: “Mae llawer o ddefnyddiau i uwchsain, ac mae’r buddion posibl yn datblygu’n gyflym wrth i’r peiriannau ddod yn fwy datblygedig ac wrth i’r ymarferydd gofal meddygol llym ddod yn fwy medrus. Mae uwchsain eisoes yn rhan allweddol o’r cwricwlwm meddygaeth frys a chyn bo hir bydd yn rhan o gwricwlwm y Gyfadran Meddygaeth Gofal Dwys (FICM).

“Mae’r llyfr hwn yn rhoi cyfarwyddiad ymarferol i’r defnydd o uwchsain i ofalu am gleifion sy’n ddifrifol wael. Mae wedi ei osod allan yn ddwy adran; mae’r adran gyntaf yn ceisio mabwysiadu ymagwedd gynhwysfawr at systemau archwilio penodol gan ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar yr organ sy’n trafod technegau gan gynnwys sganio Asesiad â Ffocws â Sonograffeg ar gyfer Trawma (FAST) a sonograffeg gwythiennol.

“Mae’r ail adran yn cyflwyno ystod o achosion penodol sy’n galluogi’r darllenydd i ddatblygu dealltwriaeth o sut i gymhwyso’r methodolegau hyn yn effeithiol i’w hymarfer clinigol o ddydd i ddydd.”

Canolbwyntiodd Dr Campbell ar uwchsain yn ystod ei hyfforddiant, ac mae ganddo radd ôl-raddedig mewn defnyddio uwchsain pwynt gofal o brifysgol Teeside. Mae hefyd yn gweithio’n agos ag Is-adran Uwchsain y Gymdeithas Gofal Dwys ac yn cynghori Pwyllgor Hyfforddiant Arbenigol ICM Cymru ar weithredu uwchsain.

Cafodd y llyfr ei gyd-olygu ag Andrew Walden, sy’n gysylltiedig ag Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Royal Berkshire, Matthew Wise, sy’n gysylltiedig ag Adran Gofal Critigol Oedolion Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ac Ashley Miller, Dwysegydd yn Ysbytai’r Amwythig a Telford, yr unigolyn cyntaf i ennill achrediad Cymdeithas Ecocardiograffeg Prydain (BSE) mewn Ecocardiograffeg Gofal Critigol sydd hefyd yn aelod pwyllgor ac arholwr BSE.

Mae’r llyfr yn cynnwys cyfraniadau gan dros 20 o awduron rhyngwladol sydd i gyd yn arbenigwyr yn eu meysydd, yn darparu uwchsain ar gyfer diagnosis a rheolaeth yn eu hymarfer acíwt yn gofalu am y rhai sy’n ddifrifol wael.